🌐 AI搜索 & 代理 主页

Merthyr Tudful: Y Chwyldro Diwydiannol

Part of DyniaethauHanes

Logos BBC Cymru Wales ac Amgueddfa Cymru

Er mwyn cydnabod dau gan mlynedd ers adeiladu Castell Cyfarthfa, mae BBC Addysg, Cymru - gyda chyngor gan Amgueddfa Cymru - wedi datblygu adnoddau dwyieithog i ddathlu hanes diwydiannol Merthyr Tudful.

Mae’r pecyn hwn yn gasgliad o adnoddau parod i athrawon fydd yn ysbrydoli disgyblion ac yn dod â’r Chwyldro Diwydiannol yn fyw drwy gyfrwng gwersi a thasgau cyffrous.

Ceir yma weithgareddau hwyliog – wedi eu creu gan athrawon – sy’n addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6. Mae’r gweithgareddau wedi eu cynllunio i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru ac yn darparu cyfleoedd cyfoethog i athrawon ddatblygu’r Pedwar Diben ac archwilio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad gyda’u dosbarth. Mae hyblygrwydd o fewn y gweithgareddau i'w haddasu ar gyfer pob disgybl a’u llwybrau dysgu unigol.

Mae'r pecyn yn cyflwyno hanes pobl Merthyr Tudful yn yr 1820au, ond mae’r cynnwys yn berthnasol i ddisgyblion ledled Cymru ac manylu ar themâu megis gwaith, mudo, tai, a iechyd a lles pobl a phlant yn y cyfnod. Dyma themâu fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r newidiadau enfawr a ddaeth yn sgil y Chwyldro Diwydiannol.

Rhowch lwyfan i’ch disgyblion! Dangoswch eu creadigrwydd a’u profiadau gyda’r pecyn hwn ar eich cyfrifon cymdeithasol. Defnyddiwch yr hashnod #pecynbitesizemerthyr i ymuno â’r bwrlwm!

Logos BBC Cymru Wales ac Amgueddfa Cymru

Pecyn Cynradd. document

Lawrlwythwch Becyn Bitesize Merthyr sy'n addas ar gyfer disgyblion cynradd (Blynyddoedd 4, 5 a 6)

Pecyn Cynradd

English version

To see the English version of the pack go to Merthyr Tydfil: The Industrial Revolution

More on Hanes

Find out more by working through a topic