Siân Eirian fydd cadeirydd newydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd Siân Eirian yn dechrau yn ei swydd ym mis Ionawr
- Cyhoeddwyd
Siân Eirian, cyn-gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, fydd cadeirydd newydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd yn olynu Gethin Thomas yn y rôl, gyda'r cyn-Aelod Seneddol Elfyn Llwyd wedi'i gadarnhau'n is-gadeirydd.
Bydd y ddau yn dechrau eu swyddi ym mis Ionawr, am gyfnod o dair blynedd.
Daw Siân Eirian o Langernyw, Conwy, ac mae wedi gweithio gyda'r Urdd ers amser hir fel aelod Aelwyd Bro Cernyw ac fel Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau.
Roedd hefyd yn gyfrifol am greu gwasanaeth Cyw a Stwnsh yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth Rhaglenni Plant a Phobl Ifanc S4C.
Ethol Nic Parry yn Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2025
Llywydd y Llys 'ddim wedi cuddio' rhag heriau yn y rôl
- Cyhoeddwyd7 Awst 2025
Anrhydeddau'r Orsedd 2023: Y gogledd
- Cyhoeddwyd22 Mai 2023
Ym mis Awst fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod Nic Parry wedi cael ei ethol yn Llywydd y Llys a chadeirydd Bwrdd Rheoli'r sefydliad.
Yng nghyfarfod olaf Gethin Thomas fel cadeirydd y cyngor, diolchwyd iddo am ei ymroddiad a'i gyfraniad dros y blynyddoedd.
Yn ogystal â bod yn gadeirydd, bu'n is-lywydd Llys yr Eisteddfod.
Yn y cyfarfod diweddaraf fe gyhoeddodd Nic Parry y bydd Gethin Thomas yn cael ei anrhydeddu'n Gymrawd yn ystod Eisteddfod y Garreg Las y flwyddyn nesaf, yn dilyn marwolaeth D Hugh Thomas yn gynharach eleni.
Gyda dim ond pum Cymrawd, dyma'r anrhydedd uchaf sy'n cael ei roi am oes o wasanaeth i'r Brifwyl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.