Episode details

Available for over a year
Iolo Williams sydd yn cyd-gerdded rhannau o’r hen lôn Rufeinig, Sarn Helen gyda’r archeolegydd Rhys Mwyn. Mae'r daith heddiw yn mynd â ni ar hyd Sarn Helen tuag at Cefn Caer, Pennal. Yn cyd-gerdded gydag Iolo a Rhys mae Math Williams, daearegwr, Manon Steffan Ross, awdures a dramodydd sydd â'i gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal yma ac Alice Briggs sydd yn artist a churadur sydd yn gweithio gyda phrosiect Tir Canol. Yn y darn bach yma mae Iolo, Rhys a Manon yn trafod Llythyr Pennal. Ar 31 Mawrth 1406, anfonodd Owain Glyndŵr lythyr, sef Llythyr Pennal fel y daethpwyd i’w adnabod, at Charles VI, Brenin Ffrainc, yn gofyn iddo am ei gymorth â’i wrthryfel yn erbyn y Saeson. Ac mae sôn mai yn y safle yma ble mae'r Gaer Rufeinig yn sefyll yr ysgrifennodd y llythyr.
Programme Website