Cymru i wynebu Canada, Qatar a'r Swistir os yn cyrraedd Cwpan y Byd

- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn wynebu Canada, Qatar a'r Swistir yng Nghwpan y Byd 2026 - os ydyn nhw'n llwyddo i gyrraedd yno.
Cafodd enillwyr Llwybr A y gemau ail gyfle - allai fod yn un o bedwar tîm, gan gynnwys Cymru - eu rhoi yng Ngrŵp B mewn seremoni yn Washington DC ddydd Gwener.
Bydd yn rhaid i garfan Craig Bellamy, sy'n ceisio cyrraedd eu hail Gwpan y Byd yn olynol, drechu Bosnia Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ac wedyn Yr Eidal neu Ogledd Iwerddon yn y ffeinal os am sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.
Fe fydd Cymru yn croesawu Bosnia a Herzegovina i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau, 26 Mawrth, gyda'r enillydd yn chwarae gartref yn y rownd derfynol ar nos Fawrth, 31 Mawrth.

Chwaraeodd Cymru yn erbyn Canada mewn gêm gyfeillgar ym mis Medi
Mae Cwpan y Byd 2026 yn cael ei gynnal ar y cyd gan Unol Daleithiau America, Mecsico a Chanada gyda'r gêm gyntaf yn cael ei chwarae yn Mexico City ar 11 Mehefin.
Chwaraeodd Cymru yn erbyn Canada mewn gêm gyfeillgar diweddar yn Abertawe, gyda'r ymwelwyr yn fuddugol ar y noson o 1-0.
Mae tîm arall sy'n gyfarwydd i Gymru wedi eu tynnu o'r het, gan fod Y Swistir wedi bod yng ngrŵp Cymru yn Euro 2020.
Drwy'r gemau ail gyfle lwyddodd Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd Qatar yn 2022 - a hynny ar ôl curo Awstria ac Wcráin yng Nghaerdydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd

- Cyhoeddwyd18 Tachwedd

- Cyhoeddwyd28 Tachwedd
