Beth ydy hanes Sandra Picton dyddiau yma?

- Cyhoeddwyd
I filoedd o bobl ar draws sawl cenhedlaeth mae'n cael ei hadnabod fel Sandra Picton, un o gymeriadau hoffus y gyfres gomedi fytholwyrdd, C'mon Midffîld.
Ond roedd Siân Wheldon yn wyneb cyfarwydd ar nifer o gyfresi poblogaidd eraill ar S4C cyn iddi droi oddi wrth actio yng nghanol y nawdegau.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs â'r actor, sy'n byw a gwirfoddoli yn Llanfairfechan, Conwy, am ei hatgofion o'r cyfnod euraidd hwnnw, a'r hyn mae hi wedi bod yn ei wneud ers hynny.
"Yn rhyfedd iawn, mae 'mywyd i wedi'i rannu'n ddau gyfnod – cyn C'mon Midffîld ac ar ôl C'mon Midffîld."
Un o Bwllheli ydy Siân, ac fe gafodd ei magu gyda'i nain a'i thaid. Aeth i'r chweched dosbarth yng Ngholeg Llamymddyfri, cyn mynd i Goleg y Drindod i astudio yn y Coleg Hyfforddi Athrawon dan arweiniad Ms Norah Isaac, a roddodd ei rhan gyntaf iddi yn y ddrama Iolo Morgannwg yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1974.

Ar ôl graddio cafodd waith yn Theatr y Werin, Aberystwyth – Canolfan y Celfyddydau heddiw. Dechreuodd gyrfa Siân fel actor proffesiynol yn gweithio i gwmni theatr mewn addysg.
"Roedd yn brofiad arbennig ac mewn ffordd dysgais cymaint am y grefft o actio a phopeth arall i wneud gyda llwyfannu drama," dywedodd am y cyfnod lle bwriodd brentisiaeth gelfyddydol i bob pwrpas.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn 1982 fe sefydlwyd S4C, a gyda hynny ei gyrfa actio teledu. Fe ymddangosodd mewn sawl rhaglen boblogaidd yn y cyfnod cynnar hwnnw fel Minafon, Jabas Jones, a Deryn. Ond does dim un mor enwog â C'mon Midffîld.
"Mae'n dal i fy rhyfeddu i fod poblogrwydd y gyfres yn parhau," eglurodd wrth sôn am C'mon Midffîld a'r gyfrinach i hirhoedledd y gyfres.
"Roedd o'n goctêl o sgript glyfar iawn, cymeriadau cofiadwy a sefyllfaoedd o'r doniol i'r difrifol. Ffrwydrad o hiwmor diniwed cefn gwlad a llond bol o chwerthin!"

Yn gynharach eleni ymunodd Siân gyda chast C'mon Midffîld mewn noson arbennig gydag Archif Ddarlledu Cymru
Mae'r gallu i wneud i bobl chwerthin yn beth gwerthfawr meddai, ac mae'n prysuro i rannu atgof sydd wedi aros efo hi dros y blynyddoedd.
"Un diwrnod ro'n i'n cerdded ar hyd stryd ym Mhwllheli a dyma 'na wraig yn rhedeg ar fy ôl a gweiddi, 'Sandra!'.
"Felly, ar y gair 'Sandra' dyma droi i wynebu'r wraig yma.
"Eisiau diolch i mi oedd hi. Mi eglurodd y wraig bod ei mab yn dioddef o iselder ysbryd ac nad oedd o wedi yngan gair wrthi hi, ei dad na neb arall am fisoedd lawer, heb sôn am chwerthin.
"Ond un noson roedden nhw'n edrych ar bennod o C'mon Midffîld a'r mab yno yn y stafell efo nhw.
"Mi glywon nhw sŵn o'r gadair lle roedd y mab yn eistedd, a'r sŵn oedd chwerthin tawel. A dyna ddechrau siwrnai eu mab at wellhad. Roedd yn fraint clywed bod C'mon Midffîld wedi cyfrannu at godi ysbryd y gŵr ifanc. Dyna wyrth hiwmor mae'n bur debyg."

Gyda Bryn Fôn, John Pierce Jones, Llion Williams a'r diweddar Mei Jones cyn mynd i BAFTA Cymru yn 1991
Siân oedd yr unig fenyw ym mhrif gast C'mon Midffîld yr adeg honno; sut brofiad oedd hynny i actor ifanc?
"Wel, o'n i wedi arfer. Es i i ysgol breswyl Coleg Llanymddyfri, ac ysgol i hogia oedd hi'n bennaf. Oedd yna tua 200-300 o fechgyn a dim ond 13 o ferched yna. Felly ro'n i wedi hen arfer bod mewn llefydd lle oedd merched yn y lleiafrif.
"O'n i wrth fy modd yng nghwmni dynion, ond weithiau oedd 'na linell yn cael ei chroesi pan oedd dynion yn siarad am bethau dynion efo agweddau gwrywaidd... a phryd hynny, ro'n i'n cael fy ngadael allan o'r sgwrs ac yn cael hynny'n anodd.
"Ond mi oedd 'na wastad barch yng nghyd-destun yr actio tra'n ffilmio, achos actorion proffesiynol oeddan ni."
Er mai cyfnod byr oedd o, mae wedi bod yn rhan o'i bywyd am ddegawdau. Sut mae'n teimlo'n edrych ar y cyfnod?
"Does dim dwywaith mai C'mon Midffîld oedd pinacl fy ngyrfa actio. Er fy mod i sawl tro wedi ceisio rhedeg oddi wrthi, mae rhywun neu rywbeth yn fy nhynnu'n ôl a gofyn i mi adrodd hanesion am y gyfres.
"Yng ngeiriau enwog TH Parry-Williams, 'Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon'."

Siân fel Laura yng nghyfres Jabas Jones
Gadael y byd actio
Ond troi oddi wrth actio wnaeth Siân yn fuan ar ôl C'mon Midffîld, er i ni ei gweld mewn cyfresi fel Porc Peis Bach ar ddechrau'r ganrif hon.
"O'n i yn meddwl mai actio fyswn i'n wneud tra bod anadl yn fy nghorff i, ond fel mae amgylchiadau weithiau yn gorfodi chdi i wneud pethau eraill. Efo tŷ a morgais fedrwn i ddim bod yn disgwyl am y ffôn i ganu, ac felly mi oedd rhaid i mi wneud penderfyniad.
"Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd, ond mi oedd rhaid i mi feddwl am fy nyfodol."
Ac felly dychwelodd Siân i'r brifysgol a chael gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg ac aros ym myd addysg y gwnaeth am gyfnod go helaeth.
Cafodd ei phenodi'n ddarlithydd Lefel A Cymdeithaseg yng Ngholeg Menai, Bangor, lle bu'n gweithio am dair blynedd, cyn symud i fod yn bennaeth Cymdeithaseg yn Ysgol Friars. Arhosodd yn y swydd honno tan 2014.
Ar ôl hynny aeth yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn Nant Gwrtheyrn.
"Mae'n syndod pwy sydd gyda diddordeb yn yr iaith Gymraeg ac o ba wlad maen nhw'n hannu - America, Awstralia, Yr Almaen, Gwlad Belg, Lloegr ac wrth gwrs y Cymry di-Gymraeg sy'n byw yng Nghymru oedd ddim wedi cael y siawns i ddysgu'r iaith pan yn blant yn yr ysgol."

Mewn cymeriad yn lansiad Rhagor o Hanesion C'mon Midffîld!
Gweithiodd fel tywysydd yn y Mynydd Gwefru yn Llanberis am gyfnod wedi hynny, cyn mynd yn ei blaen i wirfoddoli mewn amgueddfa ym Mhenmaenmawr.
Am ei chyfnod yno dywedodd, "Cefais y fraint o wneud ymchwil ar ffatri ddoliau o'r enw Rogark oedd wedi ei sefydlu ym Mhenmaenmawr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
"Nes i ddarganfod fod y doliau wedi cael eu hallforio i bedwar ban byd. Mi brynais nifer ar we gyda rhai yn y blwch gwreiddiol gyda'r geiriau 'Made in Penmaenmawr' arnyn nhw.
"Mae'r rhain rŵan wedi cael eu rhoi i'r amgueddfa fel rhodd yn barhaol."

Roedd doliau Rogark yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri ym Mhenmaenmawr
Ei gobaith rŵan ydi parhau i wirfoddoli yn ei hardal leol yng Nghonwy a Gwynedd, ac wrth gwrs, parhau i siarad am C'mon Midffîld efo ffans hen a newydd. Fe fu'n rhan o noson lansio'r llyfr Hiwmor C'mon Midffîld yng Nghaernarfon ddechrau mis Rhagfyr.
"Er fod bron i 40 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i mi weithio ar y gyfres a ffilmio C'mon Midffîld, ar hyn o bryd does dim sôn ei bod am ddistewi.
"Mae'n goresgyn popeth sydd yn y byd modern yma, ond os y daw â phleser a hapusrwydd i'r gynulleidfa, yna hir y pery!
"Fel y dywedais, er i mi geisio rhedeg i ffwrdd rhagddi sawl tro, beryg mai'r geiriau hyn fydd wedi'u naddu ar garreg fy medd, 'Yma gorwedd Sandra Picton. Trist iawn, feri sad.'"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd

- Cyhoeddwyd27 Mawrth

- Cyhoeddwyd11 Awst 2021
