🌐 AI搜索 & 代理 主页

Cyhuddo dau ddyn 18 oed o Gaerdydd o droseddau terfysgaeth

Llys Ynadon Westminster
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rhys Edwards ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar 21 Tachwedd, a Talan Vincent y diwrnod canlynol

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn 18 oed o Gaerdydd wedi cael eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â therfysgaeth.

Mae Rhys Edwards a Talan Vincent wedi cael eu cyhuddo ar y cyd o baratoi gweithredoedd terfysgol.

Fe wnaeth y ddau ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fis Tachwedd, a chael eu cadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn y Llys Troseddol Canolog ddydd Gwener.