🌐 AI搜索 & 代理 主页

Bro Myrddin: Arestio bachgen ar amheuaeth o fygwth lladd

Ysgol Bro Myrddin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ysgol Bro Myrddin ei rhoi dan glo brynhawn Mercher oherwydd y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd yn dilyn digwyddiad a achosodd ysgol yng Nghaerfyrddin i gloi ei drysau.

Cafodd Ysgol Bro Myrddin ei rhoi dan glo brynhawn Mercher yn dilyn adroddiadau bod disgybl wedi cael ei fygwth, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Mae'r bachgen 17 oed, o Sir Gaerfyrddin, yn parhau yn y ddalfa.

Mewn datganiad brynhawn Iau, fe gadarnhaodd swyddogion nad oedd y bachgen yn ddisgybl yn yr ysgol ac na chafodd ei arestio ar dir yr ysgol.

Bydd yr ysgol ar agor dydd Iau, gyda phresenoldeb heddlu ar y safle i gefnogi disgyblion a staff.

'Brawychus bod rhaid gwneud hyn'

Dywedodd y Cynghorydd Meinir James, sy'n cynrychioli ward Llangyndeyrn ar y cyngor sir ac yn llywodraethwr ar yr ysgol: "Fel pawb fi'n siŵr, fe gaethon ni sioc fawr a syndod bod y fath ddigwyddiad wedi digwydd, a bod yr ysgol wedi gorfod mynd i gloi lawr jyst ar yr adeg pan o'dd y plant ar fin gadael yr ysgol.

"Hefyd, ar yr ochr arall, chi mor falch o glywed bod pawb wedi ymateb mor gloi, bod yr heddlu wedi cynghori'r ysgol a bod yr ysgol wedi cloi lawr a bod y staff a'r disgyblion yn gallu aros yn ddiogel.

"Fi'n deall bod e wedi digwydd mor gloi, erbyn i ni glywed, o'dd y plant yn ddiogel, a mor bwysig i glywed bo' pawb yn ddiogel a bod pawb wedi cymryd popeth o ddifri' a wedi ymateb yn briodol."

Meinir James
Disgrifiad o’r llun,

"Mae ysgolion nawr - yn anffodus iawn - yn gorfod paratoi ar gyfer hyn," meddai Meinir James

Ychwanegodd bod digwyddiadau o'r fath yn ofid.

"Pan o'n i'n clywed ddoe, y peth cyntaf chi'n meddwl am yw lles y plant a'r athrawon a'r disgyblion i gyd, a beth yw effaith tymor hir hyn ar ein disgyblion a'n pobl ifanc ni.

"Mae digon o heriau ar ein pobl ifanc ni'n barod heb bod pethau fel hyn yn digwydd.

"Ond, ar y llaw arall, mae ysgolion nawr - yn anffodus iawn - yn gorfod paratoi ar gyfer hyn.

"Maen nhw yn paratoi, maen nhw'n cael ymarferion i gloi lawr - rhywbeth bydden i fyth wedi dychmygu blynyddoedd yn ôl.

"O'dd popeth wedi cael ei wneud fel maen nhw'n disgwyl. Roedd yr athrawon a'r pennaeth wedi ymateb yn syth gyda chydweithio gyda'r heddlu a gallai ddim ond talu teyrnged i bawb fuodd yn rhan o'r holl broses ac ymateb mor gyflym a sicrhau bod popeth yn ddiogel.

"Mae'n diolch ni yn enfawr i'r staff a'r heddlu a'r pennaeth a fi'n gwybod bod cadeirydd y llywodraethwyr wedi bod mewn cyswllt hefyd i gadw pawb yn ddiogel... a hyd yn oed yn gweld ar y cyfryngau cymdeithasol bod y bysiau wedi aros i'r disgyblion tu fas yr ysgol, a'r bysiau yn rhoi negeseuon i ddweud pryd o nhw'n casglu'r plant.

"Gallwn ni ond talu teyrnged bod nhw wedi mynd mas o'u ffordd a sicrhau bod pawb yn ddiogel."

Cwestiynau am ddiogelwch mewn ysgolion

Ychwanegodd Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru bod yr hyn ddigwyddodd yn "newyddion siomedig iawn".

"Dyma ni eto yn gweld bygythiadau o drais yn digwydd mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin.

"Yn anffodus mae hyn yn codi nifer o gwestiynau nawr ynglŷn â diogelwch mewn ysgolion ond ma' rhywun hefyd yn cydymdeimlo gyda'r disgyblion a'r staff hefyd oedd yn wynebu sefyllfa o fygythiad a dim ond canmoliaeth sydd gyda fi i'r ysgol am y ffordd 'nethon nhw ddelio gyda'r achos.

"Yr unig ddewis oedd gyda nhw dan yr amgylchiadau oedd cau'r ysgol lawr a wi'n gwybod oedd hynny wedi achosi diflastod i rai rhieni ond yn fy marn i, y penderfyniad cywir.

"Doedd dim dewis achos os oes yna unrhyw fygythiad i aelod o staff neu ddisgybl yna mae'n rhaid cau'r ysgol lawr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.