🌐 AI搜索 & 代理 主页

Cyflwyno gradd Doethur er Anrhydedd i'r Prifardd Tudur Hallam

Tudur HallamFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfraniad Tudur Hallam i "ysgolheictod y Gymraeg, i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg, ac i fywyd ei genedl yn helaeth a chyfoethog," meddai'r brifysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prifardd yr Athro Tudur Hallam wedi derbyn gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Abertawe.

Dywedodd y brifysgol fod y cam yn gydnabyddiaeth o'i "gyfraniad eithriadol i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg".

Tudur Hallam enillodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, am gerddi hynod bersonol yn ymwneud â'i brofiad o gael diagnosis canser.

Yn y cyfamser mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi dyfarnu gradd Doethuriaeth er anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i'r darlledwr a'r awdur Carol Vorderman a gradd Doethur er Anrhydedd i gyn brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Mike Ruddock.

Cafodd yr anrhydedd ei gyflwyno i'r Athro Hallam mewn seremoni brynhawn dydd Mawrth.

Mae'n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe lle y bu'n addysgu ac ymchwilio ym maes y Gymraeg tan ei ymddeoliad eleni am resymau iechyd.

Wrth dderbyn ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd: "Ces i yrfa hapus iawn ym Mhrifysgol Abertawe. Ces gyfle i weithio ag ysgolheigion amlwg mewn sawl maes, a mwynheais rannu â'm myfyrwyr y wefr y mae creadigrwydd yn ei roi i mi.

"Braint bob amser oedd eu dysgu a'u gweld yn datblygu a graddio.

"Mae derbyn yr anrhydedd hon gan y brifysgol yn fraint fawr i fi a'r teulu, fedraf ond dweud diolch a dymuno'r gorau i'r brifysgol wrth iddi barhau i gefnogi'r Gymraeg tua'r dyfodol."

Tudur Hallam yn derbyn ei radd Doethur er AnrhydeddFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Hallam fod derbyn yr anrhydedd "yn fraint fawr"

Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Gwenno Ffrancon, fod yr anrhydedd yn gwbl haeddiannol.

"Mae cyfraniad yr Athro Emeritws Tudur Hallam i ysgolheictod y Gymraeg, i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg ac i fywyd ei genedl yn helaeth a chyfoethog.

"Mae'n llawn haeddu Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe am y cyfraniad hwnnw ac mae'n hyfryd gwybod ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn.

"Bu'n Athro'r Gymraeg ysbrydoledig a phrofodd yn olynydd hynod deilwng i rai o gewri Adran y Gymraeg Abertawe... Mae cynifer o fyfyrwyr wedi elwa nid yn unig o'i addysgu rhagorol ond hefyd o'i ofal drostynt a'i anogaeth ac mae diolch graddedigion a chydweithwyr Abertawe iddo am hynny yn sylweddol."

Carol VordermanFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carol Vorderman ei anrhydeddu fel cydnabyddiaeth o'i gwasanaethau i ddarlledu ac addysg STEM

Mae'r brifysgol hefyd wedi dyfarnu gradd Doethuriaeth er anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i'r darlledwr a'r awdur Carol Vorderman i gydnabod ei gwasanaethau i ddarlledu ac addysg STEM.

Dywedodd Ms Vorderman fod "cefnogi myfyrwyr mathemateg yn Abertawe drwy fwrsariaethau wedi rhoi llawenydd mawr i mi" a bod derbyn yr anrhydedd yn "fraint".

Cafodd Mike Ruddock ei anrhydeddu hefyd fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad arbennig i rygbi yng Nghymru a'i gysylltiad cryf â chymuned chwaraeon yr ardal.

Dywedodd fod ei gysylltiad â'r brifysgol yn mynd yn ôl i'w ddyddiau fel chwaraewr a bod gallu'r sefydliad i ddenu, gofalu am, a datblygu chwaraewyr yn rhywbeth arbennig.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.