Wil Tân: dynion yn defnyddio alcohol a chanu gwlad i ddelio efo emosiwn

- Cyhoeddwyd
Mae 'na jôc yn cael ei ddweud gan Wil Tân yn ei ffilm newydd Y Crwydryn: sawl canwr gwlad sydd ei angen i newid bỳlb golau? Yr ateb ydi tri. Un i'w newid a dau i ganu am ba mor dda oedd yr hen fỳlb.
Chwerthin a chytuno mae'r cyfranwyr wrth drafod sut mae emosiwn a thristwch yn rhan annatod o ganu gwlad, a sut mae dynion yn tueddu i ddefnyddio cerddoriaeth - neu alcohol, neu'r ddau - i ddelio â'u teimladau.
Mae Wil Tân yn wyneb cyfarwydd ar y sin canu gwlad ac wedi bod yn boblogaidd mewn neuaddau pentref a thafarndai mewn ardaloedd gwledig ers blynyddoedd.
Ar Ddydd San Steffan, fe fydd cyfle i'w ddilyn yn teithio'r cymunedau hynny yn Y Crwydryn ar S4C, yn myfyrio ar fywyd, hiraeth, tristwch, colled a meidroldeb wedi iddo orfod delio gyda gwaeledd ei wraig, Ceri, a'i ffrind pennaf o'r Iwerddon, Peadar Finneadha

Wil Tân gyda'i wraig Ceri yn Y Crwydryn
Meddai wrth Cymru Fyw: "Roedd Ceri yn wael iawn am gyfnod ac roedd gwrando ar fiwsig fel eli.
"Dydan ni ddim yn siarad nachdan, fel dynion.
"Mae o fel yr hen gân Paid â Deud - 'os di'th galon bron a thorri, paid â deud'. Does neb isio gwrando arna chdi.
"Ella bod o fwy efo fy nghenhedlaeth i, a fwy byth efo'r genhedlaeth hŷn. Doedd Dad byth yn rhoi mwythau i ni. Dwi'n rhoi hygs i'm mhlant, ond do'n i ddim yn gwneud hynny efo Dad. Dwn im os ydi hynny'n rhywbeth Cymreig neu be'."
Fel canwr gwlad, mae'n ymwybodol iawn o swyddogaeth caneuon i dynnu emosiwn o bobl fyddai ddim fel arfer yn dangos eu teimladau, ac yn cofio ymateb i'w fersiwn o Fa'ma - cân wladgarol ac emosiynol am Gymru.

Un o olygfeydd Y Crwydryn, mewn siop canu gwlad yn Amlwch
"Dwi'n cofio bod ym Mhen Llŷn, a ffarmwrs yn dod i fyny ata i - hogia ffarm, hogia calad - ac yn deud 'da ni wrth ein bodd yn clywed y gân yna'," meddai.
"Mae o fel bod emosiwn a theimladau yn cael eu sugno allan gan ganeuon a'i gwneud o'n haws i ni - fel seiffon.
"Dydi lot o'r caneuon ddim yn hapus ac eto mae o'n cysuro rhai pobl, ac mae 'na nostalgia - rhywbeth 'da ni isio ond methu ei gael nôl, tebyg i hiraeth.
"Weithiau yr unig ffordd mae rhai pobl yn gallu dangos emosiwn ydi efo miwsig ac maen nhw'n gallu neud o dan cover mewn ffordd.
"Weithia dwi'n canu cân drist a dwi'n gweld pobl yn y gynulleidfa yn crio, neu maen nhw'n edrych yn drist a dwi'n meddwl 'mae'n rhaid mod i'n wael'. Ond wedyn maen nhw'n dod ata i a deud bod nhw wedi mwynhau - maen nhw'n mwynhau'r tristwch."

Mae'r ffilm, fydd ar S4C ar ddydd San Steffan, eisioes wedi ennill gwyborau a chael sylw mewn gwyliau ffilmiau rhyngwladol
Yn Iwerddon ddechreuodd Wil Tân berfformio'n gyhoeddus, wedi iddo gael ei berswadio i ganu gan selogion tafarn fach yn ardal wledig Conamara yng ngorllewin Iwerddon yn 1986.
Ers hynny mae o wedi dychwelyd i' r Weriniaeth i ganu - a mwynhau - tua thair gwaith y flwyddyn.
Tydi canu ar lwyfan a bod yn llygad y cyhoedd ddim yn dod yn naturiol iddo, meddai, felly doedd ganddo ddim diddordeb canu yng Nghymru lle fyddai pobl yn ei adnabod.
Ond wedi iddo gyfarfod ei wraig Ceri, oedd yn aelod o'r band Chicas, fe gafodd gyfle i recordio un gân mewn stiwdio.
Aelwyd fy Mam oedd honno, a'r bwriad oedd recordio rhywbeth personol i'w gadw iddo fo ei hun a'i rannu efo'i rieni. Ond wedi i'r gân gael ei basio ymlaen i John ac Alun, wnaeth ei chwarae ar eu rhaglen radio yn 2001 fe ddaeth cynigion i berfformio.
Meddai: "Roedd pobl yn deud 'mae'n rhaid i chdi neud gig byw'. 'Na dim diawl o beryg,' medda fi ond roedda nhw'n swnian a swnian, felly neshi un noson mewn pyb yn Nolwyddelan."

Yn y ffilm mae Wil Tân yn teithio i gymunedau fel Amlwch, Dolgellau, Aberteifi a Chwm Gwaun
Dyna ddechrau degawd prysur o berfformio'n gyson, yn aml ar nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul - a magu plant yn yr un cyfnod.
Roedd o hefyd yn gweithio, fel mae ei enw yn awgrymu, gyda'r Frigâd Dân, lle'r oedd ceisio delio gydag emosiynau yn rhan o'r swydd.
Meddai: "Roedda ni'n gweld pethau erchyll, fel doctoriaid a nyrsys a soldiwrs - ond doedd neb yn deud dim byd, neb yn siarad am y pethau a sut oedda ni - tan i ferched ddechrau dod fewn i'r Frigâd Dân.
"Newidiodd pethau wedyn a wnaeth gwaith ddechrau rhoi counselling i drio cael ni i agor allan ond do'n i ddim isio hynny.
"Rŵan dwi'n hŷn dwi'n mynd yn fwy emosiynol yn gynt."

Mae Y Crwydryn wedi ei ffilmio mewn arddull sy'n debyg i ffilm Western
Mae'r aeddfedrwydd o fod yn fwy parod i ddangos teimladau yn dod i'r amlwg pan mae Wil Tân yn trafod y dyfodol gyda'i ffrind pennaf o'r Iwerddon.
Mae Peadar Finneadha, neu Pete, yn gwaelu yn ystod y ffilmio a'r ddau yn cael cyfle i gyfarfod, efallai am y tro olaf.
"Ti'n gweld hynny efo Pete, y Gwyddel yn y ffilm, mae o wedi agor allan," meddai Wil.
"Doedd o byth yn arfer siarad am unrhywbeth i wneud efo teimladau - sna bod o wedi yfed, ac wedyn mi fyddai'n dweud straeon efo dagrau yn ei lygaid.
"Achos mi roedd o'n uffar o foi caled. Ond rŵan mae o'n gallu siarad, efo fi beth bynnag.
"Ond tydan ni ddim y gorau, fel dynion, os nad yda ni wedi cael cwrw i'n llacio ni.
"Fel roedd Dad yn arfer dweud ers talwm 'cwrw da, allwedd calon'."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023

- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
