A ddylai UNESCO gydnabod y gynghanedd, cerdd dant a Phlygain yn swyddogol?

Ysgol Glanaethwyr yn cystadlu yn yr Ŵyl Cerdd Dant yn 2025
- Cyhoeddwyd
Bydd dau bwyllgor yn cyflwyno cais i UNESCO am statws swyddogol i ganu Plygain a chrefft y gynghanedd.
Am y tro cyntaf eleni, mae'r DU yn derbyn ceisiadau neu awgrymiadau gan y cyhoedd am draddodiadau cynhenid i wledydd Prydain i dderbyn statws arbennig diwylliannol gan UNESCO.
Mae canu opera yn Yr Eidal, dawnsio Flamenco yn Sbaen a diwylliant cwrw Gwlad Belg eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth.
Cadarnhaodd Ffion Mair o bwyllgor Plygain.org ar Dros Frecwast y byddan nhw'n cyflwyno achos canu Plygain, ac fe ddywedodd Aneirin Karadog y bydd pwyllgor cerdd dafod Barddas yn gwneud yr un fath dros y gynghanedd.
Dywedodd y Prifardd:
"Dyma'r un peth unigryw all gwledydd eraill, falle Lloegr, ddim ei gwladychu, ddim ei hawlio gan Gymru. Mae yna bethau yn y gynghanedd sydd yn amhosib i'w cyfieithu."

Enillodd Aneirin Karadog y Gadair yn Eisteddfod y Fenni yn 2016
Mae'r mathau o bethau sy'n gymwys i'w henwebu'n cael eu disgrifio gan UNESCO fel "treftadaeth ddiwyllianol sy'n fyw ac yn esblygu."
Dywedodd Ffion Mair wrth y BBC:
"Mae Plygain yn 100% haeddu statws swyddogol gan UNESCO. Mae'n ddiwylliant byw sydd wedi goroesi gymaint.
"Mi oeddwn i'n byw yn Llundain am flynyddoedd, a dim ond bryd hynny yda chi'n gallu edrych yn ôl ar Gymru a sylwi pa mor wahanol ac unigryw yw'n traddodiadau ni."
Hefyd yn meddwl bod rhoi statws swyddogol i'r traddodiadau hyn yn bwysig mae'r cerddor Gwenan Gibbard:
"Fyddwn i'n bendant yn licio gweld cydnabyddiaeth gan UNESCO i draddodiadau fel canu cerdd dant a chanu phlygain.
"Mae'r ddau yn bethau diwylliannol o bwys ac yn hynod unigryw.
"Does yna ddim byd tebyg mewn unrhyw wlad arall ac mae nhw'n rhan o'n holl hanes ni ac yn draddodiadau mor hynafol ac eto mor fyw heddiw."

Gweithdy Plygain yng Nghaerdydd
Yw cynghanedd, cerdd dant a phlygain yn fyw ac yn iach?
Yn ôl rhai o bobl mwyaf blaenllaw'r diwylliant hwn yng Nghymru mae'n traddoddiadau yn fyrlymus.
"Welon ni chwech yn deilwng am y Gadair eleni," meddai Aneirin Karadog wrth BBC Radio Cymru gan ychwanegu fod y gynghanedd yn esblygu:
"Mae wedi stopio bod yn beth mor wrywaidd dros yr ugeinfed ganrif. Mae wedi esblygu o ran ei defnydd hi, wedi cael ei sefydlogi. Mae wedi esblygu gyda'r iaith hefyd."
Dywedodd Gwenan Gibbard wrth y BBC:
"Roedd 'na fwy yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Cerdd Dant eleni na fu ers blynyddoedd lawer, ac mae na blygeiniau newydd yn codi o hyd."
Ychwanegodd Ffion Mair, "Yn ystod Covid fe ges i'r syniad am blygain rhithiol ac o dyna le ddaeth y syniad am wefan Plygain.org.
"Bwriad y wefan yw hyrwyddo'r traddodiad ond yr adnodd pwysicaf mae'n siŵr yw'r dyddiadur. Mae'r dyddiadur yn cadw track ar yr holl wasanaethau plygain ac maen nhw wedi cynyddu bob blwyddyn ers i ni ddechrau cadw cofnod dair blynedd yn ôl.
"Mae 'na wasanaethau Plygain yn Coventry a Melbourne yn Awstralia hyd yn oed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd9 Tachwedd

- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2018
