🌐 AI搜索 & 代理 主页

'Mae mwy i gelf Cymreig na dim ond Kyffin'

Sôs CochFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Potel saws cyfarwydd - er ychydig yn wahanol - wedi ei baentio gan Jane Palmer

  • Cyhoeddwyd

"Mae mwy i gelf Cymreig na dim ond Kyffin."

Dyma yw geiriau'r Dr Greg Stevenson, sydd tu ôl i gyfrif Instagram, dolen allanol sy'n rhannu lluniau o weithiau celf gan artistiaid Cymreig dros y ganrif ddiwethaf.

Mae'n rhannu gweithiau celf gan artistiaid mae'n eu hoffi ac eisiau eu cefnogi, meddai, ac mae'n gasglwr helaeth o gelf Cymreig o bob math.

Diffyg cefnogaeth?

Hanes pensaernïaeth yw ei faes mewn gwirionedd – byddai gwylwyr S4C yn ei gofio o gyfresi fel Y Tŷ Cymreig ac Y Dref Gymreig – ond mae celf wedi bod o ddiddordeb iddo ers blynyddoedd, ac mae wrth ei fodd gyda chelf Cymreig, ac eisiau rhannu ei wybodaeth gyda'i ddilynwyr.

"Dwi'n jyst yn dwlu dathlu a rhannu gwybodaeth am y pethau sydd o ddiddordeb i fi, a dwi'n teimlo fel dylwn i wneud rhywbeth i hybu, cefnogi a dathlu celf, achos dwi'n meddwl fod rhyw fath o fwlch yng ngwybodaeth pobl am y byd celf Cymreig.

"Os 'se ti'n stopo rhywun ar y stryd yn Nghymru ac yn gofyn iddyn nhw, beth yw celf Cymreig? Pwy yw'r artistiaid Cymreig? Yn anffodus, ateb y rhan fwyaf fyddai 'sa i'n gallu ateb'. Neu o bosib 'Kyffin'... Mae cysgod Kyffin yn fawr dros y byd celf – dim yn fai arno e, wrth gwrs."

Kevin Sinnott a Greg StevensonFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Greg (dde) gyda'r artist Kevin Sinnott - mae Greg wrth ei fodd yn cwrdd ag artistiaid ac yn mynd i orielau ledled Cymru yn gyson

Ond beth yw'r rheswm am hyn tybed? Yn ôl Greg, dydy Cymru ddim yn estyn digon o gefnogaeth i'w hartistiaid.

"Dydyn ni ddim yn rhannu'r pot yn deg yng Nghymru. Dy'n ni ddim yn cefnogi'r byd celfyddydau cain yng Nghymru fel y dylen ni, a dyle rhywun wneud rhywbeth amdano fe.

"Dwi'n clywed lot am gefnogaeth i chwaraeon, ac wrth gwrs mae hynny'n apelio i lawer – ond dwi'm yn clywed lot am gelf gain."

Gwaith gan Gwilym PrichardFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith gan Gwilym Prichard o'r 1960au sydd bellach yn rhan o gasgliad helaeth Greg

"Mae'n sefyllfa sydd angen newid", meddai Greg. "Yng Nghymru, dy'n ni'n edrych ar y byd celf gain fel rhywbeth sydd yn dda i'w gefnogi os yw'r arian yna, fel rhywbeth ychwanegol. Dyw e ddim yn ganolog, ond dylen ni feddwl amdano o'r dechrau.

"Os wyt ti'n artist go iawn yn Iwerddon, ti ddim yn talu treth achos mae'r genedl eisiau dy gefnogi di, a ti'n cael dy gefnogi gan y wladwriaeth.

"Ond yma, dwi'n 'nabod digon o artistiaid sydd yn stryglo a dydyn nhw ddim yn gallu fforddio bod yn artistiaid. Mae angen iddyn nhw weithio llawn amser ac mae teuluoedd gyda nhw, a does dim amser gyda nhw i baentio."

Tri phortread o ddynesFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Greg yn casglu celf Cymreig o'r 1920au ymlaen

Orielau bach yn dioddef

Mae Greg hefyd yn poeni am ddyfodol orielau bach ledled Cymru, gyda nifer ohonyn nhw yn gorfod cau neu werthu casgliadau er mwyn cadw'r drysau ar agor.

Un o'r rhesymau am hyn, yn ôl Greg, yw fod pobl ddim yn prynu celf fel yr oedden nhw'n arfer gwneud.

"Dwi ddim yn siŵr beth sydd wedi digwydd. Dwi'n cofio pan oedd pawb yn cystadlu i brynu celf o arddangosfa Martin Tinney, roedd pobl yn ciwio mas ar y stryd i brynu Kyffin o'r Albany Gallery. Ond mae pethau wedi newid. Dydy'r genhedlaeth ifanc ddim yn prynu celf, a dwi'n poeni am hynny.

"Dwi'n gyrru o amgylch Cymru llawer, a wastad yn stopio mewn orielau bach, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n stryglo, a dwi'n poeni mewn pum mlynedd falle fydd dim lot o orielau celf gain yng Nghymru.

"Ry'n ni wedi bod yn cynhyrchu celf pwysig, ffantastig, unigryw, Cymreig erioed. Ond dydy pobl ddim yn gallu dod ato."

Eric MalthouseFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Greg wedi cael gafael ar waith cynnar gan Eric Malthouse - er ei fod bron ddim yn ffitio yn y car...

'Prynwch beth chi'n licio!'

Bellach, mae Greg, ei ŵr a'u dau fab yn rhannu eu hamser rhwng Llandudno a Gwlad Thai, gyda haul y dwyrain yn eu denu yn ystod tywydd oer y gaeaf. Ond dydy'r ffaith ei fod yn Asia ddim yn atal Greg rhag ychwanegu at ei gasgliad helaeth o gelf Cymreig, gan ei fod yn derbyn e-byst dyddiol am weithiau sydd ar werth mewn ocsiwn.

"Mae'r farchnad celf mor gyffrous, achos ti byth yn gwybod beth sydd am gyrraedd dy inbox yfory ac mae rhywbeth newydd bob dydd. Mae llwyth o stwff ar y farchnad ail law.

"Yn anffodus, mae llawer o bethau ar y farchnad oedd wedi eu prynu gan bobl yn y 60au a 70au sydd bellach wedi marw – ond dyma felly'r amser i gymryd mantais.

"Mae gymaint o gyfleon ar hyn o bryd i brynu enghreifftiau gwych o gelf Cymreig o'r 20fed ganrif, am brisiau rhesymol, ac mae gymaint o bethau ar y farchnad mewn orielau. Ewch mas i brynu beth chi'n licio!

Llawer o weithiau celfFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Mae cartref Greg yn orlawn gyda gweithiau celf, ond mae yna wastad le i un (neu ddau neu dri) arall!

"Mae gormod o stwff gyda fi, maen nhw'n cael eu stacio ar y llawr. Ond dwi byth wedi cadw at y cyngor i ond prynu beth mae gen ti le ar eu cyfer nhw; os dwi'n ei licio fe, dwi'n ei brynu e.

"Dwi eisiau cefnogi'r byd masnachol celf Cymreig, ac mae casglu celf yn gyfle – galli di byth gwblhau'r set, mae wastad rhywbeth gwell i'w gael a chyfle am rywbeth arall!"

Artistiaid cyffrous Cymreig

Felly pa artistiaid o Gymru – o'r gorffennol neu sy'n gweithio heddiw – sy'n ei gyffroi?

"Dwi'n hoff iawn o Natalie Chapman; dwi'n hoff o'r naratif tu ôl i'w gwaith hi a'i llais ffres, newydd. Mae ei gwaith yn datgan: 'Dwi'n ddosbarth gweithiol, dwi'n dod o ardal Aberaeron, a dwi eisiau paentio fel dwi eisiau paentio – dyma fy mywyd a fy nheulu i'.

"Mae'n gwbl groes i Kyffin, oedd – ar ôl dechrau yn gwneud portreadau yn Llundain – wedi sylweddoli ei fod yn gallu gwerthu tirluniau o Gymru, i Gymry yn Lloegr. Roedd rhywbeth rhamantus, idealised am hyn, yn siarad at hiraeth.

"Ond beth mae Natalie yn ei wneud yw ei Chymru hi, nawr.

Natalie ChapmanFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Greg yn mwynhau gwaith yr artist Natalie Chapman

"Hefyd pobl fel Meirion Ginsberg, Jon Dudley, Siwan Gillick, Jake Quinlan, Kevin Sinnott.

"Mae un o gasglwyr celf mwya'r byd wedi prynu hanner dwsin o weithiau Zena Blackwell er mwyn eu hanfon i Dubai. Felly mae pobl yn cymryd sylw ohoni hi, ond dydyn ni ddim, yng Nghymru."

Mab Greg gyda darn gan Zena BlackwellFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Mab Greg gyda darn gan Zena Blackwell

Beth sy'n gyffredin am waith yr artistiaid yma yw eu bod yn cyffroi Greg mewn rhyw ffordd, a dyna beth mae'n ceisio ei adlewyrchu ar ei gyfrif Instagram – y cynnwrf sy'n bodoli o fewn y byd celf Cymreig.

"Yng Nghymru, falle bod ni ddim yn dathlu'r gweithiau gorau; efallai bod ni'n canolbwyntio ormod ar dirluniau traddodiadol.

"Os dwi'n mynd i'r rhan fwyaf o orielau yng Nghymru, mae bron yn sicr y bydd rhywbeth tebyg i Kyffin ar y wal, ac mae pobl wastad yn eu prynu nhw. Ond dwi ddim yn hoffi pobl sydd yn copïo. Dylen ni gefnogi pobl sydd yn gwneud pethau gwreiddiol.

Mici a Tas yn ailgreu gwaith Meirion GinsbergFfynhonnell y llun, Greg Stevenson
Disgrifiad o’r llun,

Meibion Greg, Mici a Tas, yn ailgreu un o weithiau Meirion Ginsberg

"Dwi'n rhannu stwff dwi'n ei licio, falle stwff braidd yn anarferol. Mae jest yn ddewis personol o beth dwi'n ei licio a phobl dwi eisiau eu cefnogi a'u dathlu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig