Y Cymro a oedd yn fentor ar bencampwr newydd Fformiwla 1

Rob Dodds, sy'n berchen ar ganolfan rasio ac sy'n hyfforddi gyrrwyr
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Sul, 7 Rhagfyr, fe gipiodd Lando Norris bencampwriaeth Fformiwla 1 y byd, wedi iddo orffen yn drydydd yn ras olaf y tymor yn Abu Dhabi.
Dyma'r tro cyntaf i'r gŵr o Fryste ennill y bencampwriaeth, gan guro Max Verstappen i'r brig o ddau bwynt yn unig - 423 pwynt i 421.
Ond pan ddechreuodd Norris ar ei daith i'r brig, yn wyth mlwydd oed, Cymro o Sir Benfro oedd yn ei hyfforddi am flynyddoedd.
Symudodd Rob Dodds i dde Lloegr yn y 1990au, ac fe siaradodd gyda Cymru Fyw yn dilyn llwyddiant Norris yn cipio'r bencampwriaeth.
Bocsio, y cariad cyntaf
"Rwy'n dod o Ddoc Penfro'n wreiddiol, a 'nes i symud lawr i Bournemouth tua 30 mlynedd yn ôl ar gyfer gwaith," esboniodd Rob.
"Pan o'n i adre'n Sir Benfro bocsio oedd y gamp o'n i'n hoffi, ac o'n i'n hyfforddi yn ogystal â bocsio fy hun.
"O'n i'n arfer mynd i ffwrdd dipyn gyda'r clwb bocsio – Iwerddon, Yr Almaen, Gwlad Belg, a llefydd eraill."
Roedd Rob yn hyfforddi tad Scott Gammer - bocsiwr adnabyddus yng ngorllewin Cymru a chyn-bencampwr pwysau trwm Prydain.
"Rwy'n cofio gornest cynta' Scott pan oedden ni yn Iwerddon, a dim ond wyth mlwydd oed oedd e.
"O'n i'n lwcus i gael pobl dda yn fy hyfforddi - Roy Witts lawr ym Mhenfro ac yna Graham Brockway o Bont Myrddin, a oedd yn hynod ysbrydoledig."
Mae Rob wedi dychwelyd i hyfforddi bocsio ers tua thair blynedd, gan wneud hynny mewn campfa yn ardal Poole.

Rob yn dathlu gyda raswyr ifanc ei ganolfan yr haf yma
Mae teulu Rob yn parhau i fyw yn Sir Benfro, ac mae'n dweud ei fod yn falch iawn o'i wreiddiau a'i Gymreictod.
"Dwi ddim isio'r colli fy acen chwaith," meddai Rob. "Roedd pobl yn arfer gofyn i mi arafu pan o'n i'n siarad pan ddes i yma gynta', ond 'di hynny ddim yn digwydd gymaint dyddiau 'ma!"
Newid camp
Wedi iddo symud i Dorset fe gychwynnodd Rob ymddiddori mewn rasio cartiau.
"Ar ôl i mi symud lawr i dde Lloegr 'nes i ddechrau efo'r cartio. 'Nes i hynny am sbel a chael fy noddi, a pan 'nath y boi oedd yn fy noddi i ymddeol 'nes i benderfynu prynu ei gwmni e, sef BKC Racing, a dyna ble dwi 'di bod ers hynny.
"Rydyn ni'n darparu offer a darnau sbâr ar gyfer y cartiau rasio ac rwy'n hyfforddi ac ati hefyd - dwi 'di bod rownd y byd yn gwneud hynny."

Rob gyda Oliver a Lando Norris
Mae wedi bod yn flwyddyn hynod lwyddiannus i Rob a'i gwmni, achos nid yn unig bod Lando Norris wedi ennill Pencampwriaeth F1, ond fe wnaeth cyn-ddisgybl arall, Phil Hanson, ennill y ras fyd-enwog Le Mans dros 24 awr.
"Mae'n sefyllfa ryfedd, i hyfforddi'r plant 'ma, achos dydy e ddim yn normal - mae gennych chi fechgyn wyth oed yn gyrru tua 50-60 milltir yr awr!
"Cychwynnodd Lando gyda fi pan oedd e'n saith, ac roedd ei frawd e, Oliver - a oedd ddwy flynedd yn hŷn - gyda ni hefyd.
"Roedd Oliver yn yrrwr da hefyd, ac yn syth o'r dechrau roedd Lando'n ceisio cystadlu yn erbyn ei frawd, ac 'nath hynny ei sbarduno fe i gystadlu a gyrru ar ei orau."

Yn cefnogi Lando ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn wyth oed - yr oed pan oedd yn cael dechrau cystadlu
"Fe aeth y brodyr [Oliver a Lando] i Ysgol Millfield, sy'n enwog am chwaraeon," meddai Rob, "a bob dydd Mercher oedden ni'n testio efo nhw, a rasio bob dydd Sadwrn a Sul, gyda phencampwriaethau bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul.
"Aeth hyn ymlaen am dair blynedd a hanner, ac felly mae 'na lot o ymroddiad sydd angen er mwyn llwyddo yn y gamp."
Roedd Jenson Button hefyd yn defnyddio'r adnoddau yn Dorchester, ond ychydig flynyddoedd cyn i Rob ei brynu. Er hyn, mae Rob yn 'nabod Button a'i dad, fel y mae'n nabod y rhan fwyaf o fawrion rasio moduron ym Mhrydain.

Gyda Norris yn fuddugol ac Oscar Piastri'n drydydd tu ôl i Verstappen, fe enillodd McLaren y bencampwriaeth timau rasio yn gyfforddus
Dywed Rob bod rasio cartiau, ac yna mynd 'mlaen i safonau uwch, yn gallu bod yn heriol iawn o'r ochr ariannol, a bod angen buddsoddiad er mwyn llwyddo.
"Yn anffodus mae rhaid cael dipyn o arian wrth gefn er mwyn cyrraedd y brig gyda rasio, ac yn ffodus i Lando mae ei dad, Adam, yn gefnog iawn.
"Ond doedd e ddim pan oedd Lando'n dechrau rasio. Rwy'n cofio siarad efo fe un diwrnod pan saethodd ei gyfoeth i fyny i filiynau yn dilyn buddsoddiadau roedd wedi ei wneud - digwyddodd hyn dros fater o oriau! Er yr arian, mae rhaid pwysleisio bod e'n foi grêt ac yn hynod gefnogol.
"Dwi hefyd yn trin pawb yr un fath dim bwys beth yw eich cefndir - mae pawb yn cael yr un hyfforddiant a'r cyfleoedd gorau bosib."

Lando Norris yn dathlu yn dilyn y Grand Prix yn Abu Dhabi, 7 Rhagfyr 2025
Felly, sut berson yw Lando Norris, y pencampwr byd newydd?
"Ma'n fachgen grêt, a dydy e heb newid o gwbl - maen nhw'n deulu neis iawn i fod yn onest. Mae'r fam o Wlad Belg, yn ddynes hyfryd, ac yn gwneud yn siŵr bod traed Lando'n aros ar y ddaear."
Mae Rob yn falch iawn o'r hyn mae Lando Norris ac eraill wedi ei gyflawni'n ddiweddar, ond mae hefyd yn dweud bod nifer o fechgyn ifanc eraill dan ei hyfforddiant a all fynd ymlaen i bethau mawr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd

- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd30 Awst 2024

- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf
