Plygain - cyflwyniad i hen draddodiad Cymraeg y Nadolig

Arfon Gwilym yn canu Plygain yn Llanerfyl 2024, gyda Mair Tomos Ifans a Sioned Webb
- Cyhoeddwyd
Mae'n fis Rhagfyr, ac felly mae tymor y Plygain wedi cyrraedd.
Mae'r hen draddodiad o ganu hen garolau traddodiadol Cymraeg wedi dod yn boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond beth ydy'r drefn efo gwasanaeth Plygain a sut ddaeth yn fwy poblogaidd?
Un o'r criw sy'n ceisio hybu'r adfywiad ydi Arfon Gwilym, a Cymru Fyw fu'n ei holi.
I rywun sydd erioed wedi bod mewn noson canu Plygain, rhowch awgrym o beth sydd i'w ddisgwyl. Oes rhaid cymryd rhan a chanu?
Gwasanaeth crefyddol yw'r Plygain, ac mae rhai pethau sy'n ei wneud yn wahanol i wasanaeth carolau arferol: mae pawb yn canu'n ddigyfeiliant; clywir llawer o hen garolau Cymraeg na chaiff eu clywed yn unlle arall; ac mae rhyddid i unrhyw un gymryd rhan (ar yr amod eu bod yn parchu'r "rheolau" (anysgrifenedig)).
Mae croeso i unrhyw un i'r gwasanaeth, i wrando neu i gymryd rhan.
Ydy'r diddordeb mewn canu Plygain wedi parhau i dyfu yn ystod y blynyddoedd diweddar?
Ar ddechrau'r 1970au, roedd tua 20 o Blygeiniau yn digwydd, bron pob un yn y Canolbarth - Sir Drefaldwyn a'r cyffiniau.
Dechreuodd y diddordeb dyfu yng ngweddill Cymru o tua canol y 70au ymlaen.
Cyhoeddodd Amgueddfa Werin Sain Ffagan recordiadau o'r partïon Plygain, ac o'r 80au ymlaen ymddangosodd sawl casgliad o garolau traddodiadol.
Mis Rhagfyr a mis Ionawr, mae nifer y gwasanaethau wedi codi i 60, a hynny ym mhob rhan o Gymru.
Pe bai rhywun am ddechrau ymddiddori yn y traddodiad, oes rhywle cyfleus i ddarganfod enghreifftiau o'r canu neu fwy o'r hanes?
Er fod nifer fawr o'r hen garolau traddodiadol bellach wedi eu cyhoeddi, mae hanes y traddodiad ar wasgar mewn erthyglau amrywiol.
Ceir hefyd amryw o enghreifftiau o ganu plygain ar y we. Rhowch y gair 'plygain' yn Google!
Mae amryw o erthyglau ar gael i'w darllen ar wefan www.plygain.org.

Gwasanaeth Plygain Llanerfyl 2024
Pam mynd ati i sefydlu Plygain.org?
Wrth i nifer y gwasanaethau Plygain gynyddu, yr oedd galw am restr gyflawn o ddyddiadau, gyda manylion lle ac amser, er hwylustod i bawb.
Sefydlwyd gwefan plygain.org yn 2022, yn sgil cyhoeddi casgliad newydd o garolau, Seiniwn Hosanna. Derbyniwyd arian at y cyhoeddiad hwnnw gan Gronfa Llanbrynmair (o dan nawdd Cymrodoriaeth Eisteddfod Powys) a'r cytundeb oedd y byddai unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio i sefydlu gwefan ac i hyrwyddo'r Plygain yn gyffredinol.
Erbyn hyn, er mai'r Dyddiadur efallai yw adran bwysicaf y wefan, mae yno hefyd ddisgrifiad cryno o drefn ac arferion y Plygain, amryw o erthyglau, a hefyd traciau sain sy'n cynnwys atgofion plygeinwyr adnabyddus o'r dyddiau a fu.
Plygain: Hen draddodiad Nadoligaidd y Cymry
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2019
Ble mae'r gwasanaethau Plygain?
Dyma rai o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnal dros y dyddiau nesaf. Mae rhestr gyflawn ar plygain.org, dolen allanol:
Nos Iau 11/12/2025
Aberystwyth, Eglwys y Santes Fair 19:00
Nos Wener 12/12/2025
Tyddewi, Eglwys Gadeiriol 19:00
Llanidloes, Capel Heol China 19:30
Nos Sul 14/12/2025
Pennal, Eglwys Sant Pedr ad Vincula 18:00
Sain unigryw y Plygain
Mae sain traddodiadol y Plygain yn un trawiadol. Dyma flas o'r hyn allwch chi ei glywed mewn gwasanaeth o'r fath, wedi ei ffilmio yn Llanfyllin yn 2019
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2024
