Stori Annie a'i hofn wedi i'w thaid ei chamdrin yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
RHYBUDD: Mae'r erthygl hon yn sôn am gamdrin rhywiol ac yn cynnwys manylion a allai beri gofid.

"O'n i'n fwy o ofn pan oedd o wedi marw na pan oedd o'n fyw."
Dyna eiriau Annie Maycox Walker, artist colur o Bontllyfni, oedd yn westai ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ddydd Sul 1 Chwefror. Mae'n sôn am fod ofn ei thaid, y dyn fu'n ei chamdrin hi'n rhywiol pan oedd hi rhwng chwe ac wyth mlwydd oed.
Siaradodd y fam i ddau yn agored am ei phrofiadau er mwyn "'neud i [eraill sydd wedi dioddef camdrin rhywiol] deimlo fel 'dyn nhw ddim ar ben eu hunain."
Rhannodd sut y torrodd hi lawr yn 14 oed a dweud wrth ei mam am yr hyn oedd wedi digwydd iddi hi'n blentyn, a'r celwyddau roedd ei thaid wedi'u dweud wrthi i'w chadw'n dawel.
"Oedd o 'di dweud bod fi ddim yn cael dweud wrth neb. 'Secret ni' oedd o, a fysa mam fi'n marw, os fyswn i'n dweud wrth rywun.
"Dwi'n gwybod rŵan 'sa hynna ddim wedi digwydd, ond o'n i'n blentyn. Ti'n cymryd gair oedolyn ac yn meddwl bod o'n mynd i ddigwydd."

Annie gyda'i gŵr Jamie sydd, meddai Annie, "wedi bod fel angel wrth fy ymyl"
Mae Annie'n diolch i'r rhwydwaith sydd o'i chwmpas: ei mam, ei gŵr, ei theulu ac i ganolfan RASASC Gogledd Cymru am ei chwnsela drwy'r cyfnod anodd wedi genedigaeth ei mab.
Er ei bod hi'n amheus o gwnsela, mae'n dweud na fyddai hi'n gwybod "lle fyswn i hebddyn nhw."
" Oedd [y cwnselydd] yn siarad am little Annie.
"Oedd o'n dweud 'I'm really proud of little Annie because as a little girl she found a way to cope.'"
A'r ffordd honno o ymdopi oedd bwyd, eglurodd. Mae Annie wedi brwydro gyda'i phwysau ar hyd ei hoes, ac ar ei thrymaf roedd hi'n pwyso 20 stôn.
Roedd brodyr ei mam yn byw gyda'i thaid hi – Yncl Now ac Yncl Owen – a byddai'r ddau yn prynu pethau da i'w nith.
"Oedd ganddyn nhw bob tro llond pantri o sweets ac oedden nhw'n prynu family size bags o wahanol da-das.
"Nes i droi y pethau erchyll oedd yn digwydd yn y tŷ yna i, 'dwi'n cael sweets, dwi'n cael helpu'n hun.'
"A wedyn 'naeth [y cwnselydd] ddweud bod fi'n blentyn wedi ffeindio ffordd i côpio, sef troi at fwyd."

Annie ar ddydd ei phriodas gyda'i mam
Mae Annie'n egluro hefyd bod y cwnselydd wedi'i helpu hi i ddeall pam i lawer o'r atgofion hyn ddod yn ôl, a hynny'n fyw iawn, ar ôl i'w mab gael ei eni. Mae trawma newydd yn gallu datgloi hen drawma.
Bu'n rhaid dadebru (resuscitate) Frankie, ei mab hynaf ar ôl iddo gael ei eni, a dywedodd ei fod o wedi cael ei "lusgo i ffwrdd i special care a do'n i'm yn gwybod os oedd o'n fyw neu os oedd o wedi marw."

Annie gyda'i meibion
Felly yn sgil yr ysgytwad a gafodd hi wedi geni ei mab, roedd y "vault" wedi'i agor ac atgofion oedd wedi'u hen wthio i ddyfnderoedd y pen wedi dod i'r amlwg. Mae'n sôn am un achlysur yn arbennig o gofio trais gan ei thaid, tra'n bwydo yn nghanol nos.
" Roedd o fath â bod rhywun yn chwarae fideo yn brên fi. Roedd o fath â bod o wedi digwydd ddoe, dim blynyddoedd yn ôl, roedd o mor glir."
"Y pethau o'n i'n gofio, o'n i yn disgusted efo fi fy hun ac yn casáu fi fy hun.
"Dwi wedi gorfod delio efo teimlo yn afiach amdanaf i fy hun a delio efo lot o self-hate.
"Mae wedi chwarae ar iechyd meddwl fi yn uffernol."
Pan oedd hi'n blentyn, fe achosodd un digwyddiad gyda'i hewyrth iddi sylweddoli nad oedd y pethau oedd ei thaid yn ei wneud yn iawn, a'i diniweidrwydd hi fel plentyn oedd y rheswm am hynny.

Annie gyda'i Yncl Now
"O'n i'n rili agos efo Yncl Now fi, oedd o fel ail dad i fi trwy bywyd fi.
"Dwi'n cofio eistedd ar ei lin o un noson. Oeddan ni'n chwarae ac yn chwerthin. A wedyn o'n i'n meddwl 'be' ti'n 'neud pan ti'n caru rhywun?' a nes i fynd i agor balog fo.
"Naeth o jyst mynd 'be' ti'n neud?!' Gweiddi arnaf fi. Real shameful. Ac o'n i mor disappointed bod fi wedi cael row gyno fo, bod fi wedi ypsetio fo.
"Ac o'n i'n meddwl 'pam?', achos o'n i'n meddwl bod hynna'n normal."
Ar ôl hynny, ni fyddai Annie'n mynd i dŷ ei thaid oni bai fod car Yncl Now yno:
"O'n i'n gwybod o'n i'n saff efo Yncl Now yna."
Ddim yn hir wedyn fe gafodd ei thaid ei roi mewn cartref, a bu farw pan oedd Annie'n 10 mlwydd oed. Ond parhaodd yr ofn ac effaith y camdrin arni ymhell wedi hynny.
" O'n i'n fwy ofn pan oedd o 'di marw nag o'n i pan oedd o'n fyw. Achos o'n i'n meddwl fedrith o jyst dod i fewn i bedroom fi heb neb weld rŵan, achos mae o'n ghost. O'n i'n meddwl 'sa fo'n gallu dod drwy wal ataf i. At least pan oedd o'n fyw, 'sa fo'n gorfod dod i fyny i grisiau lle 'sa Mam a Dad yn gweld o.
"Oeddwn i'n gorfod cysgu efo'r golau on."

Annie'n blentyn ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au
Mae Annie yn rhannu ei stori hi yn y gobaith o rymuso eraill sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg i siarad hefyd, ac i ddweud "eu gwir nhw."
"Dwi jyst eisiau i bobl wybod bod nhw'n gryfach na maen nhw'n feddwl, ac mae'n oce os ydi o wedi digwydd i chdi, dim bai chdi oedd o.
"Mae'r support system proffesiynol yna i chdi. Es i at RASASC Gogledd Cymru. Y peth gorau wnes i oedd cael help. Mae o wedi helpu fi sylweddoli mai dim bai fi oedd o, a bod fi ddim yn shameful nac yn disgusting.
"Dim ots faint o ffrindiau a teulu sy'n dweud 'dim bai chdi ydi o', dydi o ddim yn sink-io mewn. Mae'n rhaid i chdi fynd trwy'r systemau iawn. Mae'r bobl yma wedi cael y training ac yn gwybod y ffordd orau i helpu chdi.
"Dw i eisiau i bobl wybod nad ydyn nhw ddim ar ben eu hunain.
"Mae'n iawn i siarad."
Gallwch wrando ar y bennod gyfan o Beti Ai' Phobol: Annie Maycox Walker ar BBC Sounds.
Os yw'r stori hon wedi effeithio arnoch mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.
Cnoc ar y drws un Dolig: Yr ymwelydd wnaeth aros am 45 mlynedd
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025
Galw eto am ymchwiliad i gangiau cam-drin plant yng Nghymru
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.