Cyngor yn ymchwilio ar ôl i gapel gael ei droi'n llety moethus

Mae'r hen gapel yn cael ei ddisgrifio ar wefan Airbnb fel llety chwe seren
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Conwy yn ymchwilio i'r defnydd o hen gapel yn Llandrillo-yn-Rhos fel llety gwyliau.
Cafodd perchennog y safle ganiatâd cynllunio i drosi capel Methodistaidd y dref i fod yn gartref wyth ystafell wely ym mis Gorffennaf 2023.
Ond wedi iddyn nhw wneud rhagor o waith i ddatblygu'r adeilad mae'r cyngor yn ymchwilio i'r posibilrwydd eu bod wedi torri rheolau cynllunio.
Mae'r perchennog Sol Roberts o Rhos on Sea Limited wedi gwneud cais i adran gynllunio Cyngor Conwy am "dystysgrif cyfreithlondeb" ar gyfer "defnydd presennol" yr adeilad fel "llety gwyliau tymor byr".
Lle i 34 o bobl
Mae'r eiddo wedi ei restru ar wefan Airbnb, ble mae'n nodi bod lle i 34 o bobl gysgu mewn "13 ystafell wely dwbl" sydd â phwll nofio dan do, sawna, sinema ac ystafell gemau.
Cafodd hysbysiad tramgwydd cynllunio ei gyflwyno i Mr Roberts ym mis Medi, ac fel rhan o'r broses honno roedd yn rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r cyngor faint o bobl oedd wedi aros yno rhwng 7 Chwefror a 22 Medi eleni.
Yn ôl y ffigyrau hynny, roedd bron i 400 o bobl wedi aros yn y llety yn y cyfnod yma, ac roedd hefyd wedi ei ddefnyddio gan deulu Mr Roberts.
'Lot o sŵn yn hwyr yn y nos'
Dywedodd y cynghorydd lleol, Jo Nutall ei bod hi wedi derbyn cwynion gan rai trigolion sy'n byw ger yr adeilad.
"Mae cymdogion wedi cwyno i mi, i'r cyngor, i gynghorwyr eraill a pherchnogion yr Airbnb achos bo' nhw'n dweud bod lot o sŵn yn hwyr yn y nos," meddai.
"Maen nhw'n dweud bod nifer o bobl yn mynd yno a bod lot o sŵn - ac os ydy hynny'n gywir, yna mae angen gwneud rhywbeth am y peth."
Mae adroddiad cynllunio yn nodi bod yr hawlydd yn defnyddio'r eiddo fel llety gwyliau tymor byr ar gyfer digwyddiadau fel dathliadau teuluol a phartïon.
Doedd NJPlanning Ltd - sy'n cynrychioli'r hawlydd - ddim am wneud sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.