🌐 AI搜索 & 代理 主页

Penodi Linda Evans yn Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Linda EvansFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu Cyngor Sir Caerfyrddin fel cynghorydd ar gyfer ward Llanfihangel-ar-arth ers 2008 ac mae'n aelod o'r Cabinet ers 2015

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cynghorydd Linda Evans wedi cael ei phenodi'n Arweinydd ac yn Gadeirydd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r Cynghorydd Evans yn aelod o grŵp Plaid Cymru.

Yn y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Evans gyhoeddi ei thîm cabinet newydd - mae pob aelod o'r weinyddiaeth flaenorol yn cadw eu lle a'r cynghorydd Emlyn Schiavone yn ymuno fel Aelod Cabinet dros Gartrefi.

Mae'r penodiad yn dilyn ymddiswyddiad yr arweinydd blaenorol, Darren Price, ym mis Tachwedd.

Mae'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu Cyngor Sir Caerfyrddin fel cynghorydd ar gyfer ward Llanfihangel-ar-arth ers 2008, ac mae'n aelod o'r Cabinet ers 2015.

Dywedodd y Cynghorydd Evans: "Mae'n anrhydedd cael fy ethol yn Arweinydd y Cyngor ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cabinet a'r holl Aelodau ar draws y Siambr er budd trigolion Sir Gaerfyrddin."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig