Elusen yn diolch i 'hogyn caredig' am roi ei bres poced i bobl ddigartref

Gwion yn rhoi ei bres poced i Kara Pritchard Allsup, Cydlynydd Cyfleon Pobl Ifanc GISDA
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy'r Nadolig, mae bachgen pump oed o Wynedd wedi cael ei ddisgrifio fel "hogyn eithriadol a charedig", ar ôl iddo gyfrannu ei bres poced er mwyn i blant a phobl ifanc ddigartref gael anrhegion Nadolig.
Roedd Gwion Williams o'r Felinheli wedi dweud wrth ei deulu ei fod eisiau rhoi "pres i Siôn Corn ar gyfer plant bach oedd ddim yn cael llawer o bresanta'".
Gofynnodd ei fam Ceri Williams ar y cyfryngau cymdeithasol am syniadau ar gyfer lle gallai Gwion roi ei arian, ac yna penderfynu ei roi i elusen GISDA sy'n cefnogi pobl ifanc fregus.
Aeth Gwion a'i fam i'r ganolfan yng Nghaernarfon ddydd Mercher i gyflwyno'r arian i'r elusen, sy'n cynnal apêl flynyddol am roddion i unigolion ifanc, a theuluoedd ifanc gyda phlant bach.
Dywedodd Ceri Williams bod yr elusen "wrth eu bodd" gyda rhodd Gwion, a'i fod bob amser yn fachgen sy'n hoffi rhannu a meddwl am bobl eraill, a'n rhoi ei "fferin olaf i ni adre".
"Mae'n deall bod plant bach ddim hefo pethau, ond yn amlwg doedd o ddim yn deall be' oedd GISDA'n neud.
"'Nes i egluro iddo bod plant bach ddim hefo cartref, neu bod Mam a Dad yn sâl, ac odd o'n fodlon i'r pres fynd i fan yna."
'Siôn Corn yn gwylio hogyn ffeind'
Dywedodd Prif Weithredwr GISDA, Siân Elen Tomos eu bod yn dibynnu ar haelioni'r gymuned i allu rhoi anrheg Nadolig i bobl ifanc, a'i bod hi'n "dipyn bach o sioc" bod hogyn 5 oed wedi bod eisiau helpu.
"O'dd ei fam o'n ofnadwy o garedig a chlên, ac o'dd hi'n dda hefo fo - wedi gwrando a rhoi'r cyfle iddo fo a deud, 'mi af i â chdi yna'.
"Odd hi'n neis cael siarad hefo fo am Dolig a Siôn Corn a gofyn be odd o ishio gan Siôn Corn, a jest diolch iddo fo am fod mor ffeind, a deud bod Siôn Corn yn gwylio fo yn bod mor ffeind."
Yn ôl Siân Elen Tomos mae'n anodd gofyn am roddion gan wybod ei bod hi'n gyfnod anodd i lawer o bobl, a'r Nadolig yn gyfnod drud, ond bod pobl leol - yn unigolion, ysgolion a busnesau wedi ymateb yn dda i'r apêl.
Dywedodd eu bod fel elusen yn cefnogi llawer o bobl ifanc, a rhieni ifanc gyda phlant bach a babanod, a'i bod hi'n braf gallu rhoi rhywbeth bach iddyn nhw.
"Mae'n deimlad neis, mae pobl yn licio rhoi," meddai.
GISDA yn 40: 'Anodd ymdopi â'r galw am gymorth'
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2024
GISDA yn 'newid fy mywyd wedi i fi gael fy ngwrthod'
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.