🌐 AI搜索 & 代理 主页

Gorchymyn i deulu fu'n ffermio canabis yn y de-orllewin dalu £1m

Daniel Edward McCann, Linda McCann ac Edward McCannFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Daniel, Linda ac Edward McCann

  • Cyhoeddwyd

Mae tri aelod o deulu oedd yn gyfrifol am un o'r ffatrïoedd canabis mwyaf soffistigedig yng Nghymru wedi cael gorchymyn i dalu dros £1m neu ddychwelyd i'r carchar.

Cafodd Edward McCann, 66, ei wraig Linda, 63, a'u mab Daniel, 41, eu carcharu am gyfanswm o dros 20 mlynedd 'nôl yn 2022.

Roedd y tri wedi symud o'u cartref ger Portsmouth tua saith mlynedd ynghynt a phrynu fferm yng Nghwmbach ger Hendy-gwyn ar Daf, gyda'r bwriad o dyfu canabis.

Mae Edward McCann yn dweud mai'r unig reswm dros wneud hynny oedd i leddfu poen ei driniaeth am ganser lewcemia.

Cafodd yr amddiffyniad hynny ei wrthod yn ystod ei achos yn 2022, ac unwaith eto yn ystod gwrandawiad enillion troseddau.

Offer tyfu canabisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd planhigion canabis gwerth tua £450,000 eu darganfod ar fferm y teulu

Gyda'r tri bellach yn rhydd ar ôl treulio hanner eu dedfrydau gwreiddiol dan glo, fe glywon nhw ddydd Iau maint y gosb ariannol maen nhw'n wynebu.

Bydd yn rhaid i Edward McCann dalu dros £340,000 o fewn tri mis neu fynd yn ôl i'r carchar am bedair blynedd.

Bydd yn rhaid i Daniel McCann dalu'r un gosb, ac mae Linda McCann yn gorfod talu £335,000 i'r llys o fewn tri mis neu fynd yn ôl i'r carchar am dair blynedd.

Cynhyrchion canabis gwerth tua £1.5m

Cyrhaeddodd yr heddlu Fferm Blaenlliw ym mis Hydref 2020 ac arestio Linda McCann a dau ddyn lleol oedd yn cael eu talu i gynnal a chadw y planhigion yn y beudy.

Cafodd Edward McCann ei arestio yn y ffermdy, ond ni chafodd Daniel McCann -perchennog yr eiddo oedd yn byw yn Hampshire ar y pryd - ei arestio tan Chwefror 2021, a hynny yn Portsmouth.

Daeth yr heddlu o hyd i chwe ystafell bwrpasol yn llawr ucha'r ffatri, gyda phlanhigion canabis o wahanol faint ymhob un.

Ar y llawr gwaelod roedd yna ffwrn arbennig i greu resin canabis, ac roedd yna hefyd fariau siocled canabis.

Mae'r heddlu yn credu fod y planhigion werth tua £450,000, tra bod yr 80kg o gynhyrchion canabis werth tua £1.5m.

Planhigion canabisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Edward McCann yn gwadu iddo wneud unrhyw arian o dyfu'r cyffuriau

Mae Edward McCann yn dal i fynnu mai iddo ef yr oedd y planhigion a'r siocled, a hynny i'w helpu dygymod â'i lewcemia.

"Felly fe gafoch chi eich carcharu am fod ag un bar o siocled yn eich meddiant a 40 planhigyn?" gofynnodd y barnwr Geraint Walters.

"Faint o arian wnaethoch chi o'r fenter?" gofynnodd y barnwr.

"Dim," oedd ateb Edward McCann.

Ychwanegodd y barnwr fod y fenter wedi denu sylw ffermwyr lleol ardal Hendy-gwyn ar Daf, a bod yr holl gamerâu cylch cyfyng ar fferm heb anifeiliaid yn codi llawer o gwestiynau.

"Fe wnaethoch chi dynnu sylw mawr iawn i ryfeddod yr holl beth," meddai.

Cafodd Linda McCann ei dedfrydu i chwe blynedd a saith mis 'nôl ym mis Awst 2022.

Ym mis Rhagfyr 2022 cafodd Edward MCcann ddedfryd o saith mlynedd a saith mis, a Daniel McCann i wyth mlynedd a chwe mis.

Clywodd y tri y bydd rhaid dychwelyd i'r carchar os na chaiff eu dirwy ei dalu, a bydd y disgwyliad i dalu yn parhau hyd yn oed pe taen nhw yn dewis cyfnod arall dan glo.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.