🌐 AI搜索 & 代理 主页

Dros 40 o bobl yn sâl ar ôl bwyta cinio dydd Sul mewn tafarn

Corner House Inn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diolch i'r tafarn am fod yn "adeiladol a rhagweithiol" yn ystod eu hymchwiliad

  • Cyhoeddwyd

Mae dros 40 o bobl wedi cael gwenwyn bwyd ar ôl bwyta mewn tafarn ger Maesteg.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal ymchwiliad ar ôl i 43 o bobl fynd yn sâl ar ôl bwyta cinio dydd Sul yn y Corner House Inn yn Llangynwyd.

Dywedodd Siobhan Adams o Iechyd Cyhoeddus Cymru mai achos y salwch oedd y bacteria 'Clostridium perfringens' - sy'n gallu datblygu sborau pan mae bwyd yn oeri'n araf neu'n cael ei gadw tu allan i oergell am gyfnod sy'n rhy hir.

Dywedodd y tafarn fod cwsmeriaid wedi mynd yn sâl ar ôl bod am ginio yno ar 30 Tachwedd a'u bod wedi cymryd camau i sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff ar ôl cysylltu â'r awdurdodau perthnasol.

Corner House Inn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd perchnogion y tafarn eu bod wedi'u "llorio gan be ddigwyddodd"

Mewn cyfres o negeseuon ar Facebook, dywedodd y perchnogion eu bod wedi cau'r tafarn dydd Llun, 1 Rhagfyr ar ôl cael gwybod bod rhai cwsmeriaid wedi mynd yn sâl.

"Rydyn ni wedi cymryd y camau angenrheidiol i weithio gyda chwsmeriaid ac Iechyd yr Amgylchedd i ddarganfod yr achos," meddai.

"Rydym wedi ein llorio gan be ddigwyddodd."

Mewn neges arall, ychwanegodd y perchnogion fod y tafarn bellach wedi ailagor ar ôl cael ei lanhau yn drylwyr.

Corner House Inn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Corner House Inn bellach wedi ailagor

Dywedodd Siobhan Adams o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o'r Gwasanaethau Rheoleiddio, yn cwblhau eu hymchwiliad i adroddiadau o salwch wedi i gwsmeriaid fwyta cinio dydd Sul yn y Corner House Inn yn Llangynwyd, Maesteg.

"Rydym wedi derbyn 43 o adroddiadau o salwch gan bobl wnaeth fwyta bwyd a gafodd ei baratoi ar y safle.

"Gallwn gadarnhau bod Clostridium perfringens wedi'i nodi fel achos y salwch.

"Mae'r risg i'r cyhoedd yn isel, ac nid ydym yn disgwyl gweld achosion pellach yn gysylltiedig â'r digwyddiad hwn.

"Hoffem ddiolch i'r busnes am y ffordd adeiladol a rhagweithiol y maent wedi cydweithredu â'n hymchwiliad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.