🌐 AI搜索 & 代理 主页

Dedfryd 40 mis am daro dyn gyda char yn fwriadol ym Methesda

Thomas BakerFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Thomas Baker ddedfryd o 40 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed wedi cael dedfryd o 40 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc ar ôl iddo yrru ei gar i mewn i ddyn yn fwriadol ym Methesda fis Awst.

Fe blediodd Thomas Baker yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, gyrru'n beryglus, gyrru pan oedd wedi'i wahardd a gyrru heb yswiriant wedi'r digwyddiad ar 18 Awst.

Clywodd y llys adeg hynny fod Baker, o Lan Ogwen, Bethesda, wedi achosi niwed corfforol difrifol i David Thomas, 37, ac fe blediodd yn euog hefyd i ymosod ar Michael Smith.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, clywodd y llys bod Baker wedi bod yn rhan o ffrae rhwng pedwar person ar stryd fawr y dref am tua 13:00 ar 18 Awst.

Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, clywon nhw iddo ddefnyddio ei Audi A3 "fel arf" gan yrru i mewn i David Thomas.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd eu bod yn croesawu'r ddedfryd a'i fod yn ddigwyddiad "echrydus, wnaeth ddigwydd yng nghanol golau dydd".

Disgrifiad,

Dedfryd o 40 mis i ddyn am achosi anafiadau difrifol ym Methesda

Cafodd lluniau CCTV eu dangos i'r llys ac roedd hi'n bosib gweld Baker a dyn arall yn cerdded tuag at Mr Smith a Mr Thomas, oedd yn eistedd y tu allan i gaffi.

Gwelwyd Baker yn dyrnu un o'r dynion.

Parhau a wnaeth y ffrae honno, gan arwain at y pedwar dyn yn ymladd ar y stryd.

Roedd y deunydd fideo yn dangos Baker yn dychwelyd i'w Audi, gyda Mr Thomas yn taflu blwch llwch at ei ffenestr flaen, a'i malu.

Yna, cerddodd Mr Thomas a Mr Smith i ffwrdd.

Stryd Fawr Bethesda
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Baker wedi bod yn rhan o ffrae rhwng pedwar person ar Stryd Fawr Bethesda am tua 13:00 ar 18 Awst

Ychydig wedi hynny, cafodd Audi gwyn Baker ei weld yn gyrru i fyny'r ffordd y tu ôl i'r dynion - aeth ar y palmant tu allan i Gaffi Seren a tharo Mr Thomas o'r tu ôl gan ei daflu i'r awyr.

Dioddefodd Mr Thomas sawl anaf, gan gynnwys toriadau i'w ben ac i'w ffêr - un yr oedd wedi cael llawdriniaeth arni'n ddiweddar.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod swyddogion wedi dechrau chwilio am Baker yn fuan wedi'r digwyddiad - roedd wedi ffoi o'r lleoliad yn y car.

Cafodd ei arestio ar 19 Awst a'i gyhuddo.

Ni wnaeth Mr Thomas na Mr Smith wneud unrhyw ddatganiadau i'r heddlu.

Clywodd y llys fod gan Baker, sy'n awtistig, bum euogfarn flaenorol gan gynnwys gyrru'n beryglus, ymosod a gyrru tra'i fod wedi'i wahardd.

Dywedodd y Barnwr Nicola Jones wrth Baker ei fod wedi mynd ar y palmant "yn fwriadol a tharo Mr Thomas", gan ychwanegu ei fod wedi defnyddio ei gar fel "arf".

'Dangos diystyriaeth ysgytwol'

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gwion Jones fod hwn "yn ddigwyddiad echrydus, wnaeth ddigwydd yng nghanol golau dydd ar stryd fawr brysur wrth i drigolion, twristiaid a phlant fwynhau eu gwyliau haf".

"Fe wnaeth Baker ddangos diystyriaeth ysgytwol tuag at ddiogelwch a lles y dioddefwr a'r cyhoedd ehangach."

Diolchodd y ditectif i bawb wnaeth eu helpu gyda'u hymchwiliad, gan ddweud eu bod wedi llwyddo i arestio'r dyn 19 oed yn gyflym.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y gallai'r gymuned gael cysur o waith yr heddlu a'i fod yn "croesawu" dyfarniad y barnwr.

"Mae'n anfon neges glir nad oes lle i ymddygiad o'r fath yn ein cymunedau," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig