🌐 AI搜索 & 代理 主页

Dau wedi'u hanafu ar ôl i gar gael ei erlid gan yr heddlu

Cylchfan TrelaiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger cylchfan Trelái am 03:00 fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad, ar ôl i'r heddlu erlid car yng Nghaerdydd.

Cafodd y ddau ddyn 34 oed eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn y gwrthdrawiad ger cylchfan Trelái am 03:00 fore Iau, meddai Heddlu'r De.

Maen nhw'n credu bod y ddau ddyn yn teithio mewn Ford Fiesta arian a oedd yn cael ei herlid gan y llu cyn y gwrthdrawiad - un ohonynt yn gyrru, a'r llall yn deithiwr.

Yn ôl yr heddlu, roedd hynny wedi i'r car fethu â dod i stop i heddweision.

Dywedodd y llu nad yw'r anafiadau yn peryglu bywyd, ac roedd y gylchfan ar gau am y bore cyfan wrth iddyn nhw ymchwilio i'r digwyddiad, cyn ailagor amser cinio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig