£2.8m i sicrhau bod Eglwys Gorseinon yn 'lle i bawb'

Bydd y £2.8m yn fodd i sefydlu tîm gweinidogaethol newydd yn Eglwys Gorseinon
- Cyhoeddwyd
Mae Eglwys St Catherine yng Ngorseinon wedi cael £2.8m o Gronfa Twf yr Eglwys er mwyn sicrhau ei bod yn gwasanaethu anghenion yr ardal gyfan.
Mae'r eglwys eisoes yn hwb cymunedol, wrth i 50 o grwpiau lleol gyfarfod yno.
Ar y safle hefyd mae banc bwyd a phrosiect sy'n darparu hanfodion a chefnogaeth i famau a theuluoedd newydd.
Bydd y £2.8m yn fodd i sefydlu tîm gweinidogaethol newydd a fydd yn cynnwys pobl sy'n arbenigo ym meysydd plant, teuluoedd a phobl hŷn.

Mae'n bwysig fod yr eglwys ynghanol y gymuned, medd Dr Adrian Morgan, ficer Eglwys Gorseinon
"Bydd gyda ni 10 o staff erbyn diwedd y cyfnod o bum mlynedd, ac fe fydd e'n gyfnod chwyldroadol," medd ficer Eglwys St Catherine, y Parchedig Adrian Morgan.
"Yr hyn fydd yn wahanol nad ficeriaid mewn coler gron yn unig fydd y tîm, ond pobl ag arbenigedd mewn meysydd penodol fydd yn dangos bod yr eglwys yn lle i bawb.
"Ry'n ni am wasanaethu ar gyfer pobl o bob oed a'r gymdeithas y'n ni'n byw ynddi."
Cafodd Cronfa Twf yr Eglwys, dolen allanol ei lansio gan yr Eglwys yng Nghymru yn Hydref 2023, a'r nod yw galluogi eglwysi "i drawsnewid bywydau a chymunedau ledled Cymru".
Cael ei hadnabod fel gwraig a mam i wŷr amlwg ond 'roedd mwy i Sis'
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
'Newid yn natur cymdeithas yn her i eglwysi,' medd gweinidog
- Cyhoeddwyd28 Medi
Roedd Eglwys St Catherine eisoes wedi codi £1.6m ar gyfer gwaith cymunedol, ond mae'r "cyhoeddiad rhyfeddol yma gan yr Eglwys yng Nghymru yn ein galluogi ni i fentro mewn i gyfnod newydd", ychwanegodd y Parchedig Morgan.
"Mae'n bwysig i ni fod yr eglwys ynghanol y gymuned a'n bod ni yn ddwylo ac yn draed i'r Iesu.
"Gobeithio bydd y prosiect yn denu mwy atom i'r eglwys a'n bod ni fel eglwys yn dangos ein bod yn berthnasol i'r gymuned gyfan.
"Rwy' hefyd yn gobeithio y byddwn yn gallu bod yn batrwm i eglwysi eraill ar draws Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.