🌐 AI搜索 & 代理 主页

Cofio 'dyn y bobl' Sulwyn Thomas - Teyrnged Garry Owen

Garry Owen a Sulwyn Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Bu Garry Owen a Sulwyn Thomas yn cydweithio yn swyddfa'r BBC yn Abertawe am flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Ddydd Llun, bu farw'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd, Sulwyn Thomas, yn 82 oed.

Roedd yn fwyaf enwog am gyflwyno rhaglen Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru.

Buodd gohebydd BBC Cymru, Garry Owen, a fu'n cydweithio gyda Sulwyn am flynyddoedd, yn siarad ar Dros Frecwast i hel atgofion amdano.

Sulwyn, o'n i wedi cydweithio yn hapus iawn gyda Sulwyn am flynyddoedd lawer yn stiwdio BBC Cymru yn Heol Alexandra yn Abertawe, y cartre' i'w raglen arbennig, Stondin Sulwyn.

Mae ei enw e ar y rhaglen, nid y Stondin ond Stondin Sulwyn. Na'i stamp e, ei stamp e fel darlledwr, fel newyddiadurwr arbennig iawn, iawn.

Dwi'n cofio'n ôl ac o'dd Sulwyn yn llenwi'r adeilad yn Abertawe, o'dd ei chwerthiniad e, o'dd ei lais hynod iawn, o' chi'n clywed e cyn bod chi'n gweld e bron iawn, alla i glywed e nawr.

Sulwyn THomas yn cyfweld ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol 1988

O'dd e'n ddyn caredig iawn, o'dd e'n hwyl i fod yn ei gwmni. O'dd e'n ymfalchïo yn ei deulu, yn ei ardal ond oedd e'n newyddiadurwr arbennig iawn.

O'dd e'n nabod ei bobl ac o'dd e'n gwybod beth o'dd stori.

Bydde fe'n rhedeg lawr ar ôl Stondin a bydde'n dweud wrtho fi: "Glywes di honna? Lein dda f'yna bore yma."

O'dd e'n cyffroi am y storïau, am y bobl oedd yn cysylltu â fe, yn ymfalchïo yn y bobl oedd yn cysylltu �� fe.

"Stori dda heddi", 'na beth oedd ei stori fe byth a hefyd.

Sulwyn Thomas - OB ABertawe 1984

O'dd e'n gweld y Stondin fel llwyfan i bobl, gwrandawyr Radio Cymru, i ddod ato fe a'u storïau, i'w trafod, i ddadle amdanyn nhw, i gydymdeimlo â nhw.

O'dd e'n gwybod sut o'dd ymateb i bobl a siarad â bobl.

Ac o'dd e'n gallu siarad. O'dd ddim eisiau cwestiyne ar Sulwyn, o'dd ddim eisiau sgript ar Sulwyn. O'dd gydag e ddawn naturiol o gyfathrebu.

O'dd ddim dianc wrtho fe! Rwy'n cofio bod ar wyliau unwaith yn Bruges ac o'n i'n sefyll am drên ar y platfform... ac yn sydyn iawn, mae 'na floedd yn dod a'r floedd yna yn uwch nag unrhyw uchelseinydd yn y station, o'dd Sulwyn ar y platfform. "Be ti'n 'neud fan hyn?!"

Wel, mae'r llais yna wedi tewi ysywaeth. Mae yna golled mawr ar ôl Sulwyn.

Diolch am ei gyfraniad e i newyddiadura ac i ddarlledu Cymraeg ac i Radio Cymru.

Dyn y bobl yn dyfe, atgofion hapus iawn amdano fe.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol