🌐 AI搜索 & 代理 主页

Y Gymraeg a'r Wyddeleg yn 'gallu dysgu gwersi o'i gilydd' - comisiynwyr

Baneri Cymru ac IwerddonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Datganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030 yn addo "cydweithio i hyrwyddo'r defnydd o'r Wyddeleg a'r Gymraeg"

  • Cyhoeddwyd

Mae comisiynwyr y Gymraeg a'r Wyddeleg yn awyddus i ddysgu gwersi oddi wrth ei gilydd, meddai'r ddau wrth bwyllgor diwylliant Senedd Cymru.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones bod enwau lleoedd a recriwtio i'r sector cyhoeddus yn feysydd o ddiddordeb mawr.

Ychwanegodd Séamas Ó Concheanainn, Comisiynydd yr Wyddeleg yn Iwerddon, bod "safonau iaith Cymru yn haeddu cydnabyddiaeth am eu dull cynhwysfawr o ymdrin â meysydd hanfodol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, llunio polisïau a gweithrediadau mewnol".

Mae gan lywodraethau Cymru ac Iwerddon 'Ddatganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030' - fframwaith sy'n "rhoi cyfeiriad i'n cydweithrediad hyd at ddiwedd y degawd".

Mae'r datganiad yn cynnwys "cydweithredu rheolaidd i gynyddu'r defnydd o'r Wyddeleg a'r Gymraeg", ond ni fu Comisiynydd y Gymraeg yn rhan o'r trafodaethau wrth ei lunio.

Enwau lleoedd

Dywedodd Efa Gruffudd Jones wrth y pwyllgor bod "gennym lawer i'w ddysgu o Iwerddon" yn y maes enwau lleoedd.

Mae gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg gyfrifoldeb i argymell ffurfiau safonol ond nid oes grym statudol i'r argymhellion.

Eglurodd Efa Gruffudd Jones, "yn Iwerddon mae Gweinidog y Gaeltacht yn rhagnodi ffurfiau safonol enwau Gwyddelig mewn rheoliadau, felly nid oes amwyster yn y ffurfiau ar enwau lleoedd sy'n cael eu harddel yn swyddogol.

"Mae gwaith ymchwil sylweddol y Placenames Branch yn Iwerddon yn darparu argymhellion awdurdodol ynghylch pa ffurfiau y dylid eu mabwysiadu ynghyd â'r cyfoeth o waith ymchwil sy'n gefn iddynt".

Nododd Ms Gruffudd Jones y gwaith y mae ei swyddfa yn ei wneud yn y maes:

  • cyhoeddi'r gronfa o enwau lleoedd safonol, dolen allanol;

  • argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd i awdurdodau lleol a chydweithio gydag asiantaethau fel yr Arolwg Ordnans;

  • darparu cyngor ar ffurfiau safonol enwau tirweddol i barciau cenedlaethol, enwau henebion i Cadw a llecynnau amgylcheddol i Gyfoeth Naturiol Cymru;

  • cynghori Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar enwau etholaethau newydd y Senedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Rydyn ni'n annog defnyddio ffurfiau safonol Comisiynydd y Gymraeg, ac yn cefnogi'r egwyddorion a amlinellir yn ei chanllawiau ar safoni enwau lleoedd yng Nghymru.

"Rydyn ni'n parhau i weithio ar ein blaenoriaethau ar gyfer gwarchod a hyrwyddo enwau lleoedd Cymraeg."

Comisiynydd y GymraegFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Efa Gruffudd Jones wrth y pwyllgor bod "gennym lawer i'w ddysgu o Iwerddon" yn y maes enwau lleoedd

Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod ganddi ddiddordeb "mewn dysgu gwersi am effaith darpariaethau deddfwriaeth Iwerddon".

Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i 20% o bobl sy'n cael eu recriwtio i'r sector cyhoeddus yn Iwerddon fod yn hyfedr yn y Wyddeleg erbyn 2030, ac y bydd pob swyddfa gyhoeddus yn ardal y Gaeltacht yn gweithredu trwy gyfrwng y Wyddeleg.

Ychwanegodd y comisiynydd wrth y pwyllgor bod cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd "yn un o flaenoriaethau ein cynllun strategol, dolen allanol newydd ar gyfer 2025-30 gan ein bod yn gweld bod creu, cynnal a chefnogi gweithleoedd Cymraeg yn rhan gwbl allweddol o'r strategaeth ar gyfer sicrhau hyfywedd y Gymraeg".

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC eu bod yn "buddsoddi dros £2.5m yn y rhaglen Cymraeg Gwaith, sy'n cynnig hyfforddiant amrywiol a hyblyg i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle".

"Mae'r cynllun wedi ehangu eleni i gynnig mwy o gyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer y gweithlu addysg a'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant."

Mae Cymraeg Gwaith, dolen allanol yn cael ei redeg gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod cyfleoedd eraill yn codi o feysydd polisi Datganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030 "fyddai'n gallu cyfrannu'n helaeth at gyfleoedd i ddysgu a rhannu profiadau er hyrwyddo'r Gymraeg a'r Wyddeleg gan gynnwys yn y meysydd addysg, ymchwil ac arloesi; economi a masnach; cymunedau, diaspora a chwaraeon".

"Byddai'n fanteisiol petai'r Gymraeg felly yn cael ei hymgorffori fel ystyriaeth wrth ddatblygu gwaith y llywodraeth yn y meysydd polisi hyn."

'Cyflawniadau nodedig'

Dywedodd Comisiynydd yr Wyddeleg yn Iwerddon, Séamas Ó Concheanainn: "Wrth i ni ragweld cyhoeddi drafft cyntaf y safonau iaith gan y Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymunedol a'r Gaeltacht yn Iwerddon, mae corff sylweddol o fewnwelediadau gwerthfawr i'w dysgu o gyflawniadau nodedig Comisiynydd y Gymraeg wrth oruchwylio gweithredu safonau iaith yng Nghymru."

Mae'r safonau yn ddyletswyddau sydd yn cael eu gosod ar sefydliadau gan y comisiynydd i ddefnyddio'r Gymraeg ym meysydd cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithredu, hybu a chadw cofnodion.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones bod ei swyddfa hefyd "wedi gallu cynorthwyo An Coimisinéir Teanga [Comisiynydd yr Wyddeleg, Iwerddon] ag elfennau eraill o'u gwaith - un enghraifft yw eu hymchwiliad estynedig i ddarpariaeth cyfrwng Gwyddeleg yn y sector uwchradd".

Dim ond 1% o fyfyrwyr addysg uwch yn Iwerddon sy'n astudio Gwyddeleg fel pwnc.

Mae dau gomisiynydd iaith arall hefyd wedi eu penodi yn ddiweddar yng Ngogledd Iwerddon - Pól Deeds yn gomisiynydd yr iaith Wyddeleg yno, a Lee Reynolds yn gomisiynydd dros Scoteg Ulster a'r traddodiad Ulster Prydeinig.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.