🌐 AI搜索 & 代理 主页

Cyhuddo AS o fod ar ei ffôn a 'phoeni dim' wrth wrando ar deuluoedd Covid

Dwy ddynes mewn dillad du yn eistedd tu ol i fwrdd yn un o bwyllgorau Senedd Cymru, gyda'u henwau ar bapur o'u blaenau - Anna Louise Marsh-Rees (chwith) a Sam Smith-Higgins (dde)Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Anna Louise Marsh-Rees a Sam Smith-Higgins yn anhapus bod yr AS yn defnyddio ei ffôn yn ystod y sesiwn

  • Cyhoeddwyd

Mae AS Llafur wedi cael ei gyhuddo o boeni dim am deuluoedd mewn galar trwy fod ar ei ffôn yn ystod cyfarfod un o bwyllgorau Senedd Cymru.

Dywedodd Mike Hedges ei fod yn gwneud ymchwil ar ei ffôn yn ystod y gwrandawiad ond yn ôl ymgyrchwyr a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig mae Llafur Cymru wedi troi eu cefnau ar deuluoedd dioddefwyr.

Mewn dadl danllyd yn y Senedd, fe alwodd ymgyrchwyr y grŵp Covid Bereaved Families for Justice Cymru ar Mr Hedges " i ddangos parch atom a gwrando arnom".

Atebodd Mr Hedges y byddai "yn bendant yn gwrando", gan ychwanegu: "Bydd yn rhaid i chi wrando arnaf innau nes ymlaen."

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn clywed tystiolaeth ynghylch Covid-19 wedi chwalfa pwyllgor a gafodd ei sefydlu'n benodol i edrych ar sut gwnaeth Llywodraeth Cymru ymdrin â'r pandemig.

Mae'r grŵp Covid Bereaved Families for Justice Cymru yn galw ers sbel am ymchwiliad penodol i'r hyn ddigwyddodd yng Nghymru, ond mae Llywodraeth Cymru'n dadlau bod yr ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan yn un ddigon cynhwysfawr.

Mike HedgesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mike Hedges - aelod Llafur Cymru a Phlaid Cydweithredol Cymru - sy'n cynrychioli Dwyrain Abertawe yn Senedd Cymru

Dywedodd Sam Smith-Higgins o'r grŵp wrth y cyfarfod ei bod yn teimlo bod llywodraeth Lafur Cymru heb gefnogi eu ymgyrch.

Yna fe bwyntiodd at Mr Hedges gan ddweud: "Mae Mike ar ei ffôn nawr. Ni allai Mike falio llai."

Atebodd Mr Hedges: "Ymchwilio i bethau o'n i, fel mae'n digwydd... ac os nad ydych hi eisiau i mi ymchwilio i bethau, wna'i ddim."

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Ms Smith-Higgins: "Ry'ch chi wedi bod ar eich ffôn gydol hwn [y cyfarfod] ac mae'n eithaf anghwrtais."

Dywedodd un arall y dystion y grŵp, Anna-Louise Marsh Rees: "Os gwelwch yn dda a allwch chi ddangos parch atom a gwrando arnom."

Atebodd Mr Hedges: "Yn sicr mi wnaf wrando arnoch, a bydd yn rhaid i chi wrando arnaf innau nes ymlaen."

Ychwanegodd Ms Smith-Higgins: "Dyma ry'n ni wedi ei deimlo o'r dechrau - mae Llafur Cymru'n meddwl mai codi twrw ry'n ni, ac yn wir, fe allwn i grio."