🌐 AI搜索 & 代理 主页

Dyfodol miloedd o dai newydd yn y fantol yn y de-orllewin

Matthew Morgan o Morgan Construction LimitedFfynhonnell y llun, Morgan Construction Limited
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Matthew Morgan fod y cyngor newydd yn cael "effaith ddifrifol iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd bod y diwydiant adeiladu yn ne-orllewin Cymru yn wynebu sefyllfa "erchyll", gyda miloedd o dai yn sownd yn y system gynllunio o ganlyniad i gyngor diweddar ar atal llygredd.

Mae'r rheoleiddiwr amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am i ddatblygiadau brofi na fyddan nhw'n cyfrannu at broblemau gydag ansawdd dŵr mewn ardaloedd cadwraeth oddi ar yr arfordir.

Yn ôl Matthew Morgan o gwmni Morgan Construction yng Nghaerfyrddin, mae yna fusnesau lleol sy'n gorfod gwneud pobl yn ddi-waith oherwydd yr oedi.

Mae cymdeithasau tai yn rhybuddio bod y sefyllfa'n ei gwneud hi'n amhosib adeiladu tai fforddiadwy "sydd eu hangen ar frys".

Dywedodd CNC y bu'n rhaid iddyn nhw "weithredu'n bendant" i ddiogelu ecosystemau hanfodol oedd dan gryn bwysau.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y sefyllfa'n flaenoriaeth iddyn nhw, a'u bod yn gweithredu ar frys i geisio dod o hyd i atebion.

Cychod a thai yn harbwr Aberdaugleddau, Sir BenfroFfynhonnell y llun, Geography Photos
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyfrffordd Aberdaugleddau yn Sir Benfro ymysg yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan lefelau uchel o faetholion yn y dŵr

Mae Mr Morgan yn berchen ar gwmni adeiladu Morgan Construction, sy'n codi tai i'w gwerthu i'r cyhoedd, yn ogystal ag eiddo fforddiadwy i gymdeithasau tai yn y de-orllewin.

Ond dywedodd fod ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau mewn sawl ardal o sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ar stop ar hyn o bryd - bron i chwe mis ers cyhoeddi cyngor newydd ar atal llygredd morol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

"Mae'n mynd i gael effaith ddifrifol iawn," meddai.

"Fel cwmni ni'n cyflogi 50 ar draws y busnes, ac yn wahanol i'r swyddogion sy'n 'neud y penderfyniadau hyn, yr unig ffordd dwi'n gallu talu pobl ar ddiwedd yr wythnos neu'r mis yw drwy waith ffisegol, gwaith adeiladu."

Dywedodd fod y cwmni wedi bod yn ffodus i ddechrau gweithio ar brosiect yn ddiweddar "just tu fas i'r ardal sydd wedi cael ei effeithio".

"Ond dwi'n gweithio gyda lot o fusnesau eraill fel penseiri, sydd fi'n gwybod wedi gorfod 'neud penderfyniadau anodd i gael gwared ar bobl yn uniongyrchol achos y sefyllfa yma," meddai.

"Y'n ni gyd moyn yr amgylchedd i fod yn dda - os oes consyrn am [safleoedd hyn] dyw hynny ddim wedi digwydd dros nos, mae wedi digwydd dros ddegawdau, falle hyd yn oed cenedlaethau," meddai.

"Chi ffaelu fixio fe dros nos.

"Pe tasai Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod mas â plan a dweud 'dros y pum mlynedd nesa' ni mynd i orfod rhoi pethe yn eu lle ar ddatblygiadau newydd', bydde'r sector wedi ymateb i hwnna a gallu planio amdano fe.

"Ond drwy ddod a phopeth i stop - dyw e ddim yn deg, dyw e ddim yn iawn."

'Argyfwng tai'

Mae BBC Cymru'n deall bod cymaint ag 11,000 o dai newydd yn wynebu oedi yn y gorllewin ar hyn o bryd.

Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC), sy'n cynrychioli cymdeithasau tai'r wlad, bod hyn yn cynnwys mwy na 2,110 o dai fforddiadwy, gyda thua 800 o'r rheiny bron â chwblhau eu taith drwy'r broses gynllunio.

"Roedd y rhain yn dai y bydden ni wedi disgwyl gweld pobl yn byw ynddyn nhw o fewn y flwyddyn nesaf, ond ar hyn o bryd allwn ni ddim symud ymlaen," eglurodd Rhea Stevens o CCC.

Ar draws Cymru mae yna ddegau ar filoedd o bobl ar restrau aros am dŷ cymdeithasol, meddai.

"Felly mae gennym ni argyfwng tai, ac yn y bôn beth sydd gyda ni nawr yw sefyllfa lle mewn rhannau o Gymru allwn ni ddim adeiladu'r tai fforddiadwy, sydd mor ddirfawr eu hangen."

Mae'r grŵp yn galw am esgusodi tai fforddiadwy o'r rheolau newydd am y tro fel bod modd i brosiectau barhau, tra bod atebion hirdymor i'r trafferthion llygredd morol yn cael eu datblygu.

Fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiadau newydd o gyflwr ardaloedd cadwraeth arbennig ar hyd arfordir Cymru 'nôl ym mis Mehefin, gan nodi bod sawl safle yn dioddef o lefelau uchel o faetholion yn y dŵr.

Roedden nhw'n cynnwys dyfrffordd Aberdaugleddau yn Sir Benfro yn ogystal ag aber arall sydd wedi'i warchod - mornant Porth Tywyn rhwng Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.

Roedd ymgyrchwyr amgylcheddol wedi dweud bod y casgliadau'n dangos bod llygredd o afonydd yng Nghymru bellach yn "mygu'r môr".

Y canlyniad oedd bod yn rhaid i unrhyw ddatblygiadau newydd mewn ardaloedd oedd wedi'u heffeithio ddangos na fyddan nhw'n ychwanegu maetholion i'r môr - neu fod modd iddyn nhw rywsut wneud yn iawn am y llygredd - er mwyn sicrhau caniatâd cynllunio.

Eglurodd Sara Morris, cadeirydd Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru, bod hyn yn effeithio ar ran helaeth o Sir Benfro, rhannau o Sir Gaerfyrddin ac Abertawe, yn ogystal ag ardal fach o Gastell-nedd Port Talbot ac Ynys Môn.

Dywedodd Ms Morris bod awdurdodau lleol "yn deall yn llwyr bwysigrwydd ansawdd dŵr a gwneud yn siŵr bod ein llefydd pwysicaf wedi'u gwarchod".

Pentwr o frics ar safle adeiladu tai newyddFfynhonnell y llun, Bloomberg/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 11,000 o gartrefi newydd yn sownd yn y system gynllunio ar draws Cymru yn dilyn cyngor diweddar ar ymateb i lygredd morol

Ond mewn llythyr at Lywodraeth Cymru roedd hi'n feirniadol o'r modd y deliodd CNC â'r cyhoeddiad, gan eu cyhuddo nhw o beidio ymgynghori o flaen llaw na darparu digon o wybodaeth.

"Roedd absenoldeb arweiniad, manylion o ran ffynonellau [y llygredd], a hyd yn oed mapio sylfaenol ar gyfer awdurdodau dan sylw yn annerbyniol," meddai yn y llythyr.

Esboniodd mewn cyfweliad a'r BBC: "Mae yna lwybrau trwy hyn... ond mae'n debyg y byddwn ni'n edrych ar un i ddwy flynedd cyn gallu cael cynllun masnachu maetholion yn weithredol, fyddai'n caniatáu i geisiadau am gynlluniau mawr gael eu cymeradwyo yn gynt."

Byddai cynllun masnachu maetholion yn golygu bod datblygwyr yn talu ffi i wneud yn iawn am lygredd o dai newydd trwy fuddsoddi i greu gwlyptioredd neu goedwigoedd mewn ardaloedd eraill, fyddai'n helpu mynd i'r afael â'r broblem yn ehangach.

Gareth Clubb, cyfarwyddwr WWF Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Clubb o WWF Cymru yn dweud bod y sefyllfa'n profi'r angen am strategaeth i daclo llygredd afon

Dywedodd elusen bywyd gwyllt WWF Cymru fod y sefyllfa yn dangos yr angen am "gynllun gweithredu er mwyn taclo llygredd afon, wedi'i ariannu'n ddigonol".

"Dy'n ni ddim wedi gweld arweiniad digonol gan Lywodraeth Cymru," meddai Gareth Clubb, cyfarwyddwr WWF Cymru.

"Mae cyflwr ein hafonydd ni mor wael, a lefelau llygredd mor uchel... mae datblygiadau tai yn gorfod cael eu hoedi," meddai.

Tasglu'n 'gweithio ar frys'

Dywedodd y llywodraeth eu bod wedi sefydlu tasglu gydag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chwmni Dŵr Cymru, a'u bod yn "gweithio ar frys" i ddod o hyd i atebion yn y tymor byr allai hefyd arwain at sefyllfa gynaliadwy i'r dyfodol.

"Ry'n ni hefyd yn darparu cymorth ychwanegol i'r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio, gan gynnwys dros £500,000 i Fwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru, ac wedi ariannu dros £1.5m dros dair blynedd i gefnogi awdurdodau lleol i daclo llygredd maetholion," meddai llefarydd.

Mary LewisFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mary Lewis fod heriau ansawdd dŵr "yn rhoi cryn bwysau ar ein hecosystemau"

Dywedodd Mary Lewis, pennaeth polisi rheoli adnoddau naturiol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, bod gan y corff "gyfrifoldeb" i ddarparu cyngor ar gyflwr ardaloedd sydd wedi'u gwarchod.

"Mae heriau ansawdd dŵr, yn enwedig y rhai a achosir gan ormodedd o faetholion, yn rhoi cryn bwysau ar ein hecosystemau," meddai.

"Mewn rhai lleoliadau, oherwydd gormodedd o nitrogen mewn safleoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol, mae gofyn am weithredu wedi'i dargedu i reoli'r effaith ar nodweddion gwarchodedig - mae angen i ni weithredu'n bendant i ddiogelu'r ecosystemau hanfodol hyn."

Mae'r corff yn "cydnabod yn llawn y pwysau sylweddol" sy'n wynebu awdurdodau lleol ers cyhoeddi'r cyngor newydd.

"Mae'r rhain yn faterion cymhleth, ac mae CNC wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau cynllunio lleol, Llywodraeth Cymru a'n partneriaid i symud hyn ymlaen, gan gefnogi gyda thystiolaeth gadarn, dulliau ymarferol, a chanllawiau clir i helpu i lywio asesiadau."

'Dull cymesur a phragmatig'

Doedd hi ddim yn bosib pennu amserlen o ran pryd bydd modd i brosiectau tai lifo'n haws drwy'r system gynllunio, meddai Ms Lewis, gan ychwanegu bod yn rhaid ystyried pob achos yn unigol.

Ond dywedodd y byddai modd datblygu rhai mesurau tymor byr allai leihau lefelau maetholion mewn rhannau eraill o ddalgylchoedd afon, fyddai'n caniatáu i brosiectau adeiladu barhau.

I'r tymor hir, byddai'n rhaid sefydlu cynlluniau mwy o faint ar draws dalgylchoedd, fyddai'n atal maetholion rhag cyrraedd afonydd a'r môr yn y lle cyntaf.

"Rydym wedi bod yn glir wrth ddadlau o blaid dull cymesur a phragmatig - dull sy'n galluogi datblygu cynaliadwy gan ddiogelu ac amddiffyn yr amgylchedd rydym oll yn dibynnu arno," meddai Ms Lewis.

"Byddwn yn parhau i fireinio ein cyngor a'n canllawiau pan ddaw tystiolaeth i'r fei, a hynny er mwyn cefnogi awdurdodau cynllunio i wneud penderfyniadau o ran maetholion a chapasiti sy'n gadarn yn amgylcheddol ac yn gadarn yn gyfreithiol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.