🌐 AI搜索 & 代理 主页

Clefyd cardiofasgwlaidd yn 'argyfwng cynyddol' yng Nghymru

Tesni a CarlFfynhonnell y llun, Tesni Schulze
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tesni Schulze bod ei thad Carl bellach angen gofal 24 awr yn ei gartref

  • Cyhoeddwyd

Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau yn "argyfwng cynyddol" yng Nghymru, er y gwelliannau meddygol, yn ôl elusen.

Mae British Heart Foundation Cymru yn amcangyfrif bod y clefyd yn lladd bron i 10,000 o bobl y flwyddyn yma - chwarter yr holl farwolaethau.

Clefyd cardiofasgwlaidd ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar y galon neu wythiennau gwaed, gan gynnwys trawiad neu strôc.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw nifer o bolisïau sy'n anelu at leihau risg pobl o ddatblygu clefyd y galon.

Mae'r elusen wedi lansio ymgyrch yn galw ar bleidiau gwleidyddol Cymru i leihau nifer y marwolaethau sy'n gynt na'r disgwyl o ganlyniad i'r clefyd o 25% dros y degawd nesaf.

Cyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, maen nhw'n dweud y dylai'r clefyd gael "lle amlwg" ar yr agenda wleidyddol.

Mae nifer o bethau yn gallu cynyddu'r risg o gael y clefyd, gan gynnwys pwysau gwaed uchel, diabetes, gordewdra ac ysmygu.

Carl Schulze
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carl Schulze wedi ei barlysu bron yn llwyr

Cafodd Carl Schulze, 65, o Lanberis yng Ngwynedd, sawl trawiad ar y galon flynyddoedd yn ôl.

Ym mis Mai 2022 cafodd lawdriniaeth i gael falf newydd ar ei galon.

Roedd mewn coma am dros wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd sawl strôc.

Mae wedi ei barlysu bron yn llwyr, a bellach angen gofal 24 awr yn ei gartref.

Tesni Schulze
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n galaru [dros dad] bob dydd," meddai Tesni Schulze

Dywedodd ei ferch Tesni, 27, mai dyma'r profiad "gwaethaf" iddyn nhw fel teulu.

"Dim ond yn ei fraich dde mae ganddo fo symudiad," meddai.

"Mae o'n gallu troi ei ben, ond ti'n gorfod atgoffa fo i sbïo i'r chwith… gan fod 'na beth du o flaen ei lygad o... oherwydd yr ymennydd ydy hwnna.

"Dydi o methu symud, dydi o methu cerdded, eistedd wrth ochr y gwely… mae o'n gorfod cael gofal 24 awr."

Dywedodd bod y sefyllfa yn anodd ac yn "testio rhywun yn ddyddiol".

Ychwanegodd: "Dwi'n galaru amdano fo bob dydd, dydi o ddim yn peidio croesi meddwl fi."

Bethan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni'n gweld bod argyfwng cynyddol yng Nghymru gyda'r clefyd," meddai Bethan Edwards

Dywedodd Bethan Edwards, pennaeth polisi a materion cyhoeddus British Heart Foundation Cymru: "'Da ni wedi gweld gwelliannau meddygol ers yr 1960au ynglŷn â chlefyd cardiofasgwlar, ond 'da ni'n gweld bod argyfwng cynyddol yng Nghymru gyda'r clefyd."

Mae'r elusen yn amcangyfrif bod tua 400,000 o bobl Cymru yn byw gyda'r clefyd ar hyn o bryd.

"Mae'n her gymhleth," meddai.

"'Da ni'n gweld bod y boblogaeth yng Nghymru yn cynyddu ac yn heneiddio, ac mae mwy o bobl yn goroesi gyda cardiac arrest a thrawiad ar y galon, felly mae pobl yn byw gyda'r clefyd cardiofasgwlar yn hirach."

Yn ôl yr elusen, yn 2024 roedd cyfradd y marwolaethau o'r clefyd 17% yn uwch yng Nghymru na Lloegr.

Maen nhw hefyd yn honni bod y tebygrwydd o oroesi ataliad ar y galon tu allan i'r ysbyty yng Nghymru yn un mewn 20 o bobl, o'i gymharu ag un mewn 10 yn Lloegr a'r Alban.

Dr Gethin Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Gethin Ellis ei bod yn bwysig mynd i'r afael â ffactorau all achosi'r clefyd

Mae'r clefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar y gwasanaeth iechyd, a phobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o gael eu heffeithio.

"'Da ni'n gwybod bod ysmygu yn un ffactor mawr. Mae 12% o boblogaeth Cymru'n dal i ysmygu," meddai Dr Gethin Ellis, llywydd Cymdeithas Cardiofasgwlaidd Cymru.

"Mae gordewdra yn broblem enfawr yng Nghymru, ac yn tyfu.

"O'i gymharu gyda rhannau eraill o Brydain, mae'n fwy o broblem yng Nghymru.

"Gor-bwysedd y gwaed - hypertension - yn broblem enfawr hefyd.

"Mae'r ffactorau yma yn gallu cael eu delio efo - mae'n bwysig i ni wneud hynny."

'Nifer o bolisïau' i leihau'r risg

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno cynllun ataliad ar y galon tu allan i'r ysbyty a sefydlu rhaglen genedlaethol - Achub Bywyd Cymru - "i gefnogi mwy o bobl i allu perfformio CPR".

Ychwanegodd fod ganddyn nhw "nifer o bolisïau" sy'n anelu at leihau risg pobl o ddatblygu clefyd y galon.

"Mae hyn yn cynnwys helpu pobl i fyw bywydau iachach a rheoli cyflyrau fel pwysedd gwaed uchel," ychwanegodd.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd i helpu'r GIG i wella atal a rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â chlefydau cardiofasgwlaidd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.