Dyfarniad ar achos Sala CPD Caerdydd yn erbyn Nantes i ddod ym mis Mawrth

Bu farw'r pêl-droediwr Emiliano Sala mewn damwain awyren ym mis Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd
Bydd llys yn Ffrainc yn cyflwyno y penderfyniad ar achos Clwb Pêl-droed Caerdydd yn erbyn Nantes mewn cysylltiad â marwolaeth Emiliano Sala ym mis Mawrth.
Clywodd Llys Masnach Nantes ddydd Llun y bydd y penderfyniad ar yr achos rhwng y ddau glwb yn cael ei wneud mewn gwrandawiad ar 30 Mawrth.
Mae Caerdydd yn dadlau eu bod yn haeddu mwy na £100m mewn iawndal yn sgil marwolaeth chwaraewr, y maen nhw'n credu, allai fod wedi cadw'r clwb yn yr Uwch Gynghrair.
Ychydig ddyddiau ynghynt roedd Caerdydd wedi cyhoeddi mai Sala fyddai'r trosglwyddiad mwyaf yn hanes y clwb ar ôl cytuno ar ffi gwerth £15m i'w brynu o Football Club de Nantes.
Mae Caerdydd yn dweud bod y clwb Ffrengig yn atebol am y colledion ariannol y mae'r clwb wedi eu dioddef wedi'r ddamwain, tra bod Nantes wedi gwrthod yr honiadau hynny.

Roedd Sala yn teithio o Nantes i Gaerdydd pan ddiflannodd yr awyren yn ardal Guernsey
Ym mis Rhagfyr 2018, roedd Mr Sala, ymosodwr Nantes, yn cael ei ystyried gan Gaerdydd fel chwaraewr a allai sgorio goliau i'w helpu yn y frwydr i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Ar 19 Ionawr 2019, cyhoeddwyd bod y ddau glwb wedi cytuno ar ffi o £15m am y chwaraewr.
Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, wrth i Emiliano Sala deithio o Nantes i Gaerdydd, bu farw ef a'r peilot David Ibbotson pan blymiodd yr awyren i'r môr ger Guernsey.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach nad oedd yr hediad wedi'i drwyddedu.
Cafwyd David Henderson – y dyn wnaeth drefnu'r hediad - yn euog o beryglu diogelwch yr awyren ym mis Hydref 2021 a'i ddedfrydu i 18 mis o garchar.

Cafodd David Henderson ei garcharu am 18 mis am beryglu diogelwch awyren
Mae anghydfod wedi bod rhwng Caerdydd a Nantes ers y ddamwain, gyda'r clwb Cymreig yn gwrthod talu'r rhandaliad cyntaf o'r ffi drosglwyddo nes cynnal ymchwiliadau i atebolrwydd.
Arweiniodd y ffrae at FIFA yn gorchymyn i Gaerdydd dalu – gyda'r Adar Gleision yn apelio i CAS (Court of Arbitration for Sport).
Gyda CAS yn cadarnhau penderfyniad FIFA, talodd Caerdydd y rhandaliad cyntaf ym mis Ionawr 2023 – gan ddod â gwaharddiad trosglwyddo cynghrair bêl-droed Lloegr (EFL) i ben – cyn talu gweddill y ffi yn ddiweddarach.
Ond mae'r clwb wastad wedi mynnu eu bod yn barod i gymryd camau pellach, ac ym mis Ebrill 2024 fe wnaethon nhw gyflwyno cwyn i Lys Masnach Nantes gan geisio hawlio 120.2m ewro (£104m) mewn iawndal.
Daw'r ffigwr hwn o golledion ariannol yr honnir i Gaerdydd eu profi o ganlyniad i ddisgyn o'r Uwch Gynghrair yn 2019.
Bydd tîm cyfreithiol Caerdydd yn cyflwyno tystiolaeth gan arbenigwyr gafodd eu cymeradwyo gan y llys, gan gynnwys adroddiad ystadegol gan y cwmni data pêl-droed FC Analytics, sy'n honni y gallai Emiliano Sala fod wedi rhoi hwb o hyd at 62% i obeithion y clwb o aros yn yr Uwch Gynghrair.
O ran y swm, mae'r iawndal yn seiliedig ar ddadansoddiad annibynnol o'r incwm a gollwyd ar ôl disgyn, effaith hirdymor ar werth y clwb, yn ogystal â'r ffi drosglwyddo wreiddiol.
Dydy Nantes heb ymateb i geisiadau am sylw ond mae'r clwb eisoes wedi gwrthod honiadau Caerdydd gan ddweud nad yw eu safbwynt wedi newid.

Mae honiad Caerdydd yn seiliedig ar eu dadl fod y cyn-asiant pêl-droed, Willie McKay yn gweithio ar ran Nantes pan gafodd yr hediad ei threfnu gyda Mr Henderson.
Roedd Mr Sala wedi cael cynnig hediad masnachol gan glwb Caerdydd i ddychwelyd i Gymru ond roedd am gael mwy o amser i ffarwelio yn Nantes.
Nid oedd Mr McKay yn asiant cofrestredig ac mae wedi honni o'r blaen mai helpu ei fab Mark – yr asiant drefnodd y trosglwyddiad - oedd o, ond fe drefnodd yr hediad.
Mae Nantes eisoes wedi gwadu fod Willie McKay yn gweithio ar eu rhan.
Cymerodd Caerdydd gamau sifil yn erbyn Willie McKay i gael datgelu e-byst a dogfennau yn ymwneud â'r trosglwyddiad, gyda chytundeb y tu allan i'r llys yn cael ei wneud ym mis Chwefror 2024.
Dywedon nhw fod y negeseuon hyn yn profi'r cysylltiad ac felly atebolrwydd terfynol Nantes am yr hediad a'r effaith ariannol a ddilynodd pan gollodd Caerdydd eu lle yn yr Uwch Gynghrair.
Sut mae'r achos hwn yn wahanol?
Roedd penderfyniad FIFA i orchymyn Caerdydd i dalu'r ffi drosglwyddo yn seiliedig ar y ffaith fod y cytundeb wedi'i gwblhau'n swyddogol ac felly roedd y taliad yn ddyledus.
Cytunodd CAS nad oedd modd ystyried agweddau eraill, fel atebolrwydd am yr hediad neu iawndal posibl. Cytunodd y Llys Ffederal yn y Swistir nad oedd gan CAS yr awdurdod i ymdrin â'r materion hynny.
Mae Caerdydd yn credu mai dyma'r tro cyntaf i farnwr wrando ar eu cwynion am y trosglwyddiad, gan ddweud nad yw llawer o'r hyn gafodd ei drafod yn y gwrandawiad hwn erioed wedi cael ei archwilio'n llawn o'r blaen.
Caerdydd 'wedi ceisio yswirio Sala ar ôl iddo farw'
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
Agor a gohirio cwest i farwolaeth Sala
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.