🌐 AI搜索 & 代理 主页

Gwrthdrawiad Llaneirwg: Siom teuluoedd am wrandawiad camymddwyn

Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve SmithFfynhonnell y llun, Cyfryngau Cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn dilyn y digwyddiad yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae teuluoedd dwy fenyw ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad car ar gyrion Caerdydd yn dweud eu bod yn siomedig fod dau heddwas wedi cael eu clirio o gamymddwyn mewn cysylltiad â'r achos.

Bu farw Eve Smith a Darcy Ross - y ddwy yn 21 oed - ynghyd â Rafel Jeanne, 24, yn y gwrthdrawiad un cerbyd yn Llaneirwg yn 2023, ac fe gafodd dau arall oedd yn y cerbyd eu hanafu'n ddifrifol.

Cafodd y grŵp eu hadrodd ar goll i Heddlu Gwent ar 4 Mawrth, ond ni chafodd y cerbyd ei ddarganfod tan 6 Mawrth.

Mae chwech o swyddogion Heddlu Gwent yn wynebu prosesau camymddwyn yn ymwneud â'u gweithredoedd ar ôl i'r llu gael gwybod bod y grŵp ar goll.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn cydymdeimlo â'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad.

Roedd teuluoedd Ms Smith a Ms Ross, a theulu Sophie Russon a oroesodd y gwrthdrawiad, wedi dweud wrth yr heddlu ar 4 Mawrth bod y grŵp ar goll, gyda'r adroddiad cyntaf wedi'i wneud am 19:30 y noson honno.

Fe wnaeth teulu a ffrindiau'r pump barhau i apelio dros y dyddiau nesaf i geisio eu canfod, gyda mam un ohonyn nhw'n dweud bod yr heddlu wedi dweud wrthi am stopio â chysylltu gyda nhw i gael ei diweddaru.

Cafodd y cerbyd ei ddarganfod rhyw 46 awr ar ôl y gwrthdrawiad.

Roedd y Volkswagen Tiguan wedi mynd oddi ar y ffordd ger cylchfan, gyda'r heddlu'n cadarnhau fod y rheiny oedd yn y cerbyd wedi bod yn sownd am bron i ddeuddydd.

Beth oedd y gwrandawiadau?

Fis diwethaf fe ddywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) y byddai chwe swyddog Heddlu Gwent yn wynebu proses ddisgyblu yn ymwneud â'u gweithredoedd yn dilyn yr adroddiadau bod y grŵp ar goll.

Ddydd Mawrth roedd dau o'r rheiny'n wynebu gwrandawiadau camymddwyn, a daeth panel i'r casgliad na fyddan nhw'n wynebu unrhyw weithredoedd pellach, ac y byddai'r prosesau disgyblu yn eu herbyn nhw yn dod i ben.

Dyw gwrandawiadau camymddwyn ddim yn agored i'r cyhoedd, felly dyw BBC Cymru ddim wedi gallu clywed y manylion yn llawn.

Ond y gred ydy bod sarjant yn wynebu honiad ei fod wedi methu ag adolygu'r holl wybodaeth oedd ar gael pan gafodd asesiad risg ei wneud ar gyfer y menywod coll.

Mae'r BBC hefyd yn deall fod cwnstabl yn wynebu honiad nad oedd wedi chwilio cartrefi yn briodol.

Teuluoedd Eve Smith a Darcy Ross
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teuluoedd Eve Smith a Darcy Ross eu bod yn siomedig gyda chanlyniad y gwrandawiadau

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau nad oedd yr honiadau o gamymddwyn wedi'u profi, ac y dylai'r swyddogion "dreulio cyfnod yn myfyrio".

Os yw swyddog wedi'i gyhuddo o gamymddwyn difrifol, mae'r gwrandawiad fel arfer yn un cyhoeddus, ond ar gyfer honiadau llai difrifol maen nhw'n cael eu cynnal yn breifat.

Mewn gwrandawiad camymddwyn mae gan y panel bedwar opsiwn - dim gweithredu pellach o gwbl, awgrymu "cyfnod o myfyrio", roi rhybudd ysgrifenedig, neu rybudd ysgrifenedig terfynol.

Dim ond swyddogion sy'n wynebu honiad o gamymddwyn difrifol sy'n gallu cael eu diswyddo.

'Dim cyfiawnder'

Dywedodd teulu Ms Ross mewn datganiad bod y canlyniad wedi eu gadael yn teimlo "heb ein clywed, heb ein gweld, ac wedi'n gadael i lawr".

Maen nhw'n cyhuddo Heddlu Gwent o "fethu ag ymateb gyda'r brys a'r gofal mae pob teulu yn ei haeddu".

"Wnawn ni fyth wybod os y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol, ond rydyn ni'n gwybod nad oedd y bobl sy'n gyfrifol am ddiogelu'r cyhoedd - Heddlu Gwent - wedi gweithredu yn brydlon."

Ychwanegodd chwaer Ms Smith, Lauren Doyle, wedi'r gwrandawiad: "Dydyn ni ddim yn teimlo y byddwn yn cael cyfiawnder trwy'r broses yma."

O'r chwith i'r dde - Sophie Russon, Eve Smith a Darcy RossFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde - Sophie Russon, Eve Smith a Darcy Ross

Mae pedwar swyddog arall yn dal i wynebu honiadau o gamymddwyn difrifol mewn cysylltiad â'r achos, ond does dim dyddiad eto ar gyfer y gwrandawiadau.

Y rheiny yw:

  • Sarjant oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad, am y ffordd yr oedd wedi ymdrin â'r adroddiadau bod pobl ar goll;

  • Cwnstabl, sy'n wynebu honiad ei fod wedi methu â chynnal ymholiadau sylfaenol, gan gynnwys peidio cofnodi na rhannu gwybodaeth gydag uwch aelod o staff, a honiadau o fethu â chyfathrebu'n briodol gyda theuluoedd;

  • Dau gwnstabl sy'n wynebu honiadau eu bod wedi methu â chwilio tai, a rhoi cofnodion anonest i uwch aelod o staff, a'r IOPC am hynny.

Cydymdeimlo â'r teuluoedd

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Nicky Brain, bod y llu yn cydymdeimlo â'r teuluoedd.

"Rydyn ni'n cydnabod pa mor anodd yw hyn i'r teuluoedd, a'r effaith y bydd yr achosion camymddwyn yn ei chael arnyn nhw a'r gymuned ehangach.

"Yn dilyn casgliad ymchwiliad yr IOPC, rydyn ni bellach wedi cynnal gwrandawiadau camymddwyn ar gyfer dau swyddog.

"Cafodd ei ganfod nad oedd honiadau o gamymddwyn wedi'u profi ar gyfer y ddau swyddog, ac y dylen nhw dreulio amser yn myfyrio.

"Mae'r teuluoedd wedi cael gwybod am ganlyniadau'r cyfarfodydd camymddwyn ac fe fyddan nhw'n parhau i gael eu diweddaru ar y gwrandawiadau camymddwyn fydd yn cael eu cynnal ar gyfer pedwar swyddog yn y misoedd nesaf.

"Mae gwelliannau i'r ffordd rydyn ni'n ymchwilio i bobl sydd ar goll, a gafodd eu nodi fel rhan o ymchwiliad yr IOPC, wedi cael eu gweithredu.

"Bydd unrhyw gyfleoedd pellach i ddysgu, sy'n deillio o'r achosion camymddwyn, yn cael ein sylw."

Pynciau cysylltiedig