Cynllun am ganolfan ar gyfer clybiau chwaraeon Cymraeg Caerdydd

Mae arweinwyr cynllun Canolfan Canna eisoes wedi gofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo'r 'stafelloedd newid ym Mhontcanna i'w gofal
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf mewn hanner can mlynedd fe allai canolfan gael ei hagor ar gyfer holl glybiau chwaraeon Cymraeg Caerdydd, gyda'r safle hwnnw hefyd yn gartref ar gyfer canolfan gymdeithasol i'r Gymraeg.
Mae arweinwyr cynllun Canolfan Canna eisoes wedi gofyn i Gyngor Caerdydd i drosglwyddo'r 'stafelloedd newid ym Mhontcanna i'w gofal.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn ystyried cynnig i osod y stafelloedd newid ar les.
Fe fydd Clwb Pêl-droed Cymric a Chlwb Rygbi Cymry Caerdydd yn cydweithio ar y cynllun.
Maen nhw'n dweud eu bod yn trafod â nifer o fudiadau eraill, gan gynnwys yr Urdd a Menter Caerdydd.

"Mae 'na gyfle fan hyn i ni gael canolfan o'r diwedd yng Nghaerdydd," meddai Hywel Price
"Mae'n gyffrous iawn," dywedodd cadeirydd clwb Cymric, Hywel Price.
"Ar ôl hanner can mlynedd o aros am gartref i glwb Cymric a chlwb rygbi Cymry Caerdydd, mae 'na gyfle fan hyn i ni gael canolfan o'r diwedd yng Nghaerdydd lle 'dan ni chwarae'n hanesyddol ar y caeau yma."
Ychwanegodd ei fod yn "gyfle i'r ddau dîm - y ddau glwb gan gynnwys yr holl dimau merched, timau ieuenctid, timau pêl-rwyd, hoci - bod 'na ganolfan i'r holl gampau yma yng Nghaerdydd mewn ardal gwbl ganolog i'r ddinas".
"Ni 'di bod yn aros hanner can mlynedd am y cyfle 'ma."

"Mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a Clwb Cymric wedi dod at ei gilydd i drio creu cartre' i ni," meddai Daniel Tiplady
Mae gweithgor Clwb Canna eisoes wedi cael ei sefydlu i roi'r cynllun ar waith, ac un o'r aelodau ydy Daniel Tiplady.
"Mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a Clwb Cymric wedi dod at ei gilydd i drio creu cartre' i ni," meddai.
"Mae'r clybiau wedi bodoli ers y 60au hwyr ond byth wedi cael cartref parhaus, ac ers rhai blynyddoedd 'dan ni 'di bod yn gweithio i drio sicrhau rhywle i ni ddod at ein gilydd.
"Yn ddiweddar 'dan ni 'di ehangu y tu hwnt i ni fel clybiau chwaraeon i drio creu cartre' i'r Gymraeg yn y ddinas.
"Ac mae'n falch iawn gynnon ni ddeud bod yr awdurdod lleol, Cyngor Caerdydd wedi'n cefnogi ni'n ddiweddar ac wedi cytuno mewn egwyddor i drosglwyddo'r adeilad [ystafelloedd newid Pontcanna] fel cartre' i ni fel clybiau, ond hefyd cael cartre' i'r Gymraeg yn y ddinas."

Mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a Chlwb Cymric wedi chwarae ar gaeau Pontcanna yn hanesyddol
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn ystyried cynnig i osod ystafelloedd newid Pontcanna ar les i glwb cymunedol.
Dywedodd y llefarydd fod "trefniadau o'r fath, lle y bydd clybiau'n cymryd cyfrifoldeb am reoli a chynnal safleoedd eisoes yn help i nifer o glybiau chwaraeon ar draws Caerdydd i ddefnyddio ffrydiau ariannol fyddai ddim ar gael i gynghorau lleol".
"Mi all clybiau elwa o'r buddsoddiad hwnnw i wella'u cyfleusterau a gwella'r hyn maen nhw eisoes yn ei gynnig i'n cymunedau."
Mi fyddai angen noddwyr, a chyfranddalwyr mae'n debyg, a byddai angen i'r fenter fod yn hunangynhaliol yn y pendraw.
Y bwriad ydy cael caffi a bar yn y ganolfan a bod honno ar agor saith diwrnod yr wythnos, gyda chryn ddibynnu ar wirfoddolwyr ar y dechrau, er fe allai swyddi parhaol ddod yn sgil hynny.
Fe allai ail ran y cynllun gynnwys codi caeau chwarae newydd, ond fe fyddai hynny ymhellach i'r dyfodol.

"Mae'n gyffrous iawn cael canolfan Gymraeg yn y brifddinas," meddai Dafydd Duggan (chwith)
Ag yntau'n chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd ac yn brif swyddog un o'r mentrau iaith, mae Dafydd Duggan yn gefnogol i'r cynllun ar bob cyfri'.
"Mae'n gyffrous iawn cael canolfan Gymraeg yn y brifddinas," meddai.
"Dwi'n meddwl bod bwlch ar y foment yn hynny o beth.
"Ar y foment, [o] siarad dros y clwb rygbi, 'dan ni'n cyfarfod yn nhafarn yr Halfway sydd yn lleoliad i ni ar y foment, ond dydy o ddim yn ganolfan Gymraeg fel petai.
"Ac o ran fy ngwaith i yn broffesiynol mae'n gyffrous gweld rhywbeth yn y 'nalgylch cartrefol i yn cael ei wasanaethu."
Y bwriad ydy cyflwyno cynllun gweithredu i'r cyngor sir ym mis Mai'r flwyddyn nesa', ac mae sawl cyfarfod wedi bod efo'r cyngor yn barod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
