🌐 AI搜索 & 代理 主页

Cynnydd sylweddol mewn achosion o'r ffliw yng Nghymru

Claf ffliw yn gorwedd mewn gwelyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 254 o gleifion ffliw mewn ysbytai yn ystod wythnos gyntaf Rhagfyr, gyda 12 angen gofal critigol

  • Cyhoeddwyd

Mae achosion o'r ffliw wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod wythnos gyntaf Rhagfyr, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r ystadegau yn dangos bod cyfraddau ffliw ar ddechrau'r mis wedi cyrraedd "dwyster cymedrol", ar ôl dechrau cynharach na'r arfer i'r tymor ffliw.

Roedd nifer wythnosol y bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd y feirws wedi cynyddu i 163 yn wythnos gyntaf Rhagfyr, o'i gymharu â 145 yn yr wythnos flaenorol.

Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 254 o gleifion yn ysbytai Cymru gyda ffliw yn yr wythnos hyd at 7 Rhagfyr, gyda 12 o'r rheiny angen gofal critigol.

'Ddim yn rhy hwyr i gael brechlyn'

Oherwydd oedi rhwng casglu'r ystadegau a'u cyhoeddi, mae'r gyfradd bresennol yn debygol o fod yn uwch na'r hyn sy'n cael ei ddangos, a hefyd yn sylweddol uwch na'r un adeg flwyddyn yn ôl.

Ond mae'n amhosib dweud ar hyn o bryd pryd, a pha mor uchel fydd brig y tymor ffliw, ac a fydd yn llawer gwaeth na'r blynyddoedd diwethaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod yn gweld "nifer sylweddol o achosion o'r ffliw ymhob grŵp oedran, ond yn enwedig ar hyn o bryd ymhlith plant a phobl ifanc yn eu harddegau.

Ond mae'n dweud ei bod hi'n ymddangos bod y brechlyn eleni yn effeithiol wrth gynnig amddiffyniad i bobl iau rhag salwch difrifol.

Mae ymchwil yn awgrymu bod y brechlyn 72% yn effeithiol yn y grŵp oedran 2-17 wrth atal achosion sydd angen triniaeth ysbyty.

Mae Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru yn atgoffa rhieni plant a gollodd eu sesiwn frechu yn yr ysgol nad ydi hi'n rhy hwyr i drefnu iddyn nhw gael y brechlyn cyn y Nadolig.

'Tymor ffliw wedi dechrau'n gynt'

Yr hyn sy'n ddiamheuol yw bod y tymor ffliw wedi dechrau'n gynt na'r arfer eleni, ac ry'n ni wedi clywed pryderon gan sawl arbenigwr iechyd cyhoeddus y gallai'r tymor fod yn fwy difrifol na'r arfer oherwydd y math o ffliw sy'n ymledu'n bennaf.

Mae'n werth nodi, tra bod ffliw i rai yn achosi iddyn nhw deimlo'n anhwylus am rai dyddiau, gall y feirws beryglu bywyd eraill.

Mae cyfraddau ffliw yn cynyddu ar draws grwpiau o bob oed, ond yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond y newyddion mwy calonogol, medden nhw, yw bod astudiaeth newydd yn awgrymu bod y brechlyn eleni yn cynnig lefel dda o amddiffyniad i bobl ifanc yn erbyn salwch difrifol.

Felly mae 'na apêl ganddyn nhw i rieni plant a gollodd y cyfle i gael eu brechu yn yr ysgol, i'w hannog nhw i gael brechiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig