Mam Emiliano Sala'n cefnogi CPD Caerdydd mewn achos yn erbyn Nantes

Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo cytundeb i ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd pan fu farw mewn damwain awyren ddechrau 2019
- Cyhoeddwyd
Mae mam y pêl-droediwr Emiliano Sala yn dweud ei bod hi wedi "ffieiddio" gyda'r ffordd mae clwb Nantes yn "esgus nad oes cyfrifoldeb arnyn nhw" am amgylchiadau marwolaeth ei mab.
Bu farw Sala, yn ogystal â'r peilot David Ibbotson, ym mis Ionawr 2019 pan blymiodd yr awyren roedden nhw'n hedfan ynddi o Nantes i Gaerdydd i'r môr ger Guernsey.
Roedd yr Archentwr, 28, wedi arwyddo i Gaerdydd am £15m ddeuddydd ynghynt, ac mae'r clwb o Gymru nawr yn hawlio £100m o iawndal gan Nantes.
Mae Caerdydd yn hawlio bod yr asiant a drefnodd yr hediad, Willie McKay, yn gweithredu ar ran Nantes yn ystod trosglwyddiad Sala - honiad y mae'r clwb o Ffrainc yn ei wadu.
Ddydd Llun, fe gyflwynodd y ddau glwb eu hachosion i lys masnach yn Nantes, ac mae disgwyl dyfarniad ar 30 Mawrth.
Mae Caerdydd yn hawlio colledion o £104m mewn perthynas â marwolaeth Sala, gan honni y gallai'r ymosodwr fod wedi eu cadw yn yr uwch gynghrair fel arall.
'Esgeulustra wedi costio bywyd fy mab'
Mewn datganiad dywedodd mam Sala, Mercedes Taffarel nad oedd hi wedi gallu mynychu'r gwrandawiad, ond ei bod hi'n cefnogi safbwynt Caerdydd.
"Yn anffodus doeddwn i methu bod yn y gwrandawiad oherwydd bod fy hediad wedi ei ganslo," meddai mewn datganiad nos Fawrth ddaeth drwy gyfreithwyr Caerdydd.
"Mae clywed am sut blediodd FC Nantes eu hachos yn fy ffieiddio. Fe ddefnyddiodd Willie McKay ei fab i gwblhau dêl lewyrchus pan oedd ei drwydded o wedi'i atal.
"Mae'n warthus bod FC Nantes yn esgus nad oes cyfrifoldeb arnyn nhw. Fe wnaeth esgeulustra FC Nantes a'u hasiant ar y pryd gostio bywyd fy mab.
"Yr unig beth dwi eisiau ydi gweld yw cyfiawnder."

Er i Emiliano Sala farw cyn chwarae'r un gêm i'w glwb newydd, fe adawodd cefnogwyr deyrngedau lu iddo y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd
Y gwrandawiad ddydd Llun oedd y cam diweddaraf mewn sawl achos llys yn ymwneud â marwolaethau Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson.
Cafodd David Henderson, y dyn wnaeth drefnu'r hediad, ei garcharu am 18 mis yn 2021 am beryglu diogelwch yr awyren, ar ôl iddi ddod i'r amlwg nad oedd yr hediad wedi'i drwyddedu.
Cafodd Caerdydd hefyd eu gorfodi gan FIFA ac uwch-lys chwaraeon CAS i dalu'r ffi o £15m i Nantes am Sala, yn dilyn dyfarniad bod y trosglwyddiad wedi ei gwblhau.
Yn yr achos diweddaraf, mae Caerdydd nawr yn hawlio iawndal am golled incwm a niwed pellach o ganlyniad i farwolaeth Sala, a'u cwymp wedi hynny o Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwnnw.
Mae'r Adar Gleision yn hawlio mai Nantes, drwy eu canolwr nhw, yr asiant Willie McKay, oedd trefnwyr yr hediad preifat yr oedd Sala arno – er bod McKay wedi ei wahardd rhag bod yn asiant ar y pryd.

Cafodd David Henderson ddedfryd o 18 mis o garchar am drefnu'r hediad angheuol
Dywedodd cyfreithiwr Caerdydd, Olivier Loizon, wrth y llys nad oedd posib y byddai McKay ddim yn ymwybodol "fod yr hediad yn anghyfreithlon", gan ddadlau fod yr asiant wedi ymddwyn yn "esgeulus".
"Beth bynnag oedd achos terfynol y ddamwain ddylai [Sala] ddim fod wedi bod ar yr awyren," meddai.
Dywedodd cyfreithiwr Nantes, Jerome Marsaudon, mai'r unig asiant gafodd ei awdurdodi gan y clwb ar gyfer y trosglwyddiad oedd Mark McKay, mab Willie McKay.
Roedd Willie McKay "ond yn helpu ei fab, o ystyried ei brofiad helaeth," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'n drist gweld bod Caerdydd wedi ecsbloetio'r trasiedi hwn a'i droi i mewn i ffars cyfreithiol llwyr.
"Does dim byd yn yr achos yma sy'n cyfiawnhau dwyn FC Nantes yn gyfrifol."
Gwadu 'unrhyw ddrygioni'
Roedd Nantes wedi gwrthod honiad o "unrhyw ddrygioni, unrhyw gysylltiad rhwng drygioni honedig a'r colledion, a'r colledion eu hunain", yn ôl cynrychiolydd ar ran llywydd y clwb, Waldemar Kita, cyn y gwrandawiad.
Dyw'r clwb o Ffrainc ddim wedi ymateb i ddatganiad diweddarach Ms Taffarel.
Dydy Willie McKay na Mark McKay ddim wedi ymateb yn gyhoeddus chwaith - i'r gwrandawiad nac i sylwadau Ms Taffarel.
Ond mewn dyfyniad diweddar i bapur newydd The Times, dywedodd Willie McKay nad oedd yn gweithredu fel asiant yn nhrosglwyddiad Sala, a'i fod yn "gweithio gyda'i fab... yn helpu ei fab".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
